Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 28, 2018

Marw Arwr Annwyl

Nid ar y cae y mae sylw’r miloedd yn y Molinón, cartref tîm peldroed Sporting de Gijón, heddiw. Yno mae’r rhesi hir yn aros i fynd i mewn i ffarwelio â Quini, â’r Dewin.

Enrique Castro González. El Brujo. Roedd yn 68 mlwydd oed. Bu farw yn y stryd yn Gijón ddoe yn dilyn trawiad ar y galon. 40 mlynedd yn ôl efe oedd seren mwyaf disglair cynghrair Sbaen, gan chwarae’n gyntaf i Sporting ac wedyn i Barcelona. Fe chwaraeodd i;r clybiau mawr am dros 20 mlynedd, y rhan fwyaf o’r tymhorau yn Asturias a dechrau’r 80au yng Nghatalwnia.

Ym 1981, yn yr un wythnos â’r cais gan rai o fyddin Sbaen i gipio pŵer yn y wlad,  fe gafodd Quini ei gipio, gan ddynion oedd am arian mawr amdano. Fe’i ddaliwyd am 3 wythnos, ond yn y diwedd fe ddaeth yn rhydd heb dalu dim, a heb gael niwed. Daeth miloedd mâs i’w groesawu nôl i Barcelona yn oriau mân y bore y noson y gafodd ei ryddhau.

Ac yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn rhan o’r ymgyrch i gael statws swyddogol i’r iaith Astwreg. Bydd colled enfawr ar ei ôl; mae bron bob un o’m cydnabod yn dweud taw fe oedd arwr eu plentyndod nhw, dim ots pa glwb yr oedden nhw’n cefnogi.

Hasta luego, Brujo.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: