Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 10, 2018

Tywydd, ac ati

Ga’i ddechrau drwy ddweud na chawsom ni yn Asturias mo’r dyddiau haf hirfelyn sydd wedi pobi Cymru ers mis a mwy. Mae wedi bod yn dwym, ond nid yn boeth, gyda digonedd o niwl a pheth glaw. Yn debycach i Gymru na Chymru’i hunan eleni.

Yn y mynyddoedd uchel, yn y Picos de Europa, mae trwch o eira yn dal ar lawr yn uwch na 2000m. Rai blynyddoedd, mae e bron wedi diflannu cyn diwedd Mehefin. Ond mae’r gaeaf a’r gwanwyn gwlyb wedi sicrhau ‘gwasanaeth arferol’ gyda’r meirioli yn raddol adael i’r dŵr i ddisgyn i’r ardaloedd ae wastadedd yr arfordir.

Fydd rhywun ddim yn gweld hynny’n digwydd yn hawdd iawn, achos mae creigiau’r Picos fel mwyafrif tiroedd Asturias yn garreg galch, ac yn llawn llyncdyllau dwfn iawn o hyd at 1500m. Bydd y dŵr yn chwilio am y disgyniad cyflymaf ac yn mynd i lawr rhain cyn ffurfio afonydd danddaearol, sydd wedyn yn ymddangos yn ochr ogleddol y mynyddoedd ar eu llwybr i’r môr. Gyda llaw mae Môr Iwerydd fan hyn, yn agos iawn i’r arfordir, yn cuddio’r un fath o dirlun, gydag affwysau o hyd at 5000m o ddyfnder. Lle da i bysgod, ac i bysgotwyr.

Yn y lluarth byddwn yn ceisio dwfrhau lleiaf posib. Mae’r eginblanhigion yn cael eu siâr, a’r coed ifanc dan ddyflwydd, ond wedyn mae disgwyl iddyn nhw tyfu gwreiddiau. Bydd y tomatos dan do yn cael, wrth gwrs!

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

w

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: