Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 5, 2018

Rhagfyr fel yr Haf

Diwrnod llewys byr oedd hi ddoe. 22° ar y teras am 2 o’r gloch, a hynny allan o’r haul. Y gwynt yn awel tyner o’r de-orllewin. Er hynny, chododd y gwlith ddim tan amser cinio, a dim o gwbl yn y rhannau hynny ar yr ochr gogleddol.

Tra fuom ni bant yn ystod mis Tachwedd bu storom wynt aruthrol ac fe godwyd pabell plastig y twnel bach. Yn ffodus ni aeth yn bell ond dyna ddiwedd ar y pupurod. Mae’r letys ar y llaw arall wedi goroesi. Dddigwyddodd hyn unwaith o’r blaen, felly rydym ni wedi dewis lleoliad newydd i’r twnel ar gyfer 2019, gan obeithio bydd hwn yn fwy cysgodol.

Gwaith clirio a pharatoi sydd yn yr ardd ar hyn o bryd. Torri nôl ar lafant a dalia a ffigysbren, symud yr hibiscus yn ei bot i’r tŷ gwydr, a sgubo’r dail o’r pafin i wneud deilbridd.

Ar ôl Nadolig byddwn yn dechrau or docio’r coed ffrwythau a’r olewydd, jobyn mawr fydd yn cymryd wythnos efallai. A chredwch neu beidio bu’n rhaid lladd gwair.

Ond mae eistedd ar y teras a bwyta salad o letys, tomatos, cennin sifis a phersli, i gyd o’r ardd, yn bleser sydd werth y gwaith i gyd.

Advertisements

Responses

  1. Helo Cath, sut mae pethau? Nôl yn Asturias am ymweliad bach. Ar y ffordd i Ribadesella ar yr Alsa. Heb fod o’r blaen felly’n edrych ymlaen er gwaetha’r tywydd llwyd. Oes gennych chi awgrymiadau o ran rhywle i fwyta prynhawn yma? Diolch, Gordon

    • A finnau yng Nghaerdydd! Na drueni. Yn Ribadesella y tapas gorau yw Carroceu ar y cei a’r Antroxu yn y stryd fawr. Os am bryd cyfan, mae gan Arbidel seren Michelin, neu mae Casa Gaspar, neu y rhai ar hyd y cei. Mater o ddewis y menú sy’n apelio. Buen provechu!

      • Diolch am yr awgrymiadau. Mwynhewch yng Nghaerdydd. Bydda i yno ddydd Sadwrn am y Nadolig.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: