Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 20, 2019

Trafferth Treftadaeth

Stori fach fydd o ddiddordeb arbennig i ohebwyr sydd wedi treulio oriau mewn cyfarfodydd cyngor.

p1130654

Fe dreuliodd cyngor Ribadesella yn nwyrain Asturias gryn amser yn ymgyrchu gyda chyrff eraill i gael statws Safle Treftadaeth y Byd (Patrimonio de la Humanidad) i lwybr gogleddol Santiago, sy’n dilyn arfordir yr Iwerydd ac yn pasio drwy’r dref. Yn 2015, llwyddiant!

Ond yn ddiweddar, pan aeth perchnogion adeiladau ar y cei i ofyn am ganiatad cynllunio i wneud newidiadau, fe gafodd y cyngor wybod bod pob adeilad ar ochr y llwybr yn awr o dan nawdd y Safle Treftadaeth, ac nad oedd modd newid dim. Daeth cadwyn o gyfarfodydd yn sgîl y darganfyddiad yma, rhai gyda llywodraeth Asturies, rhai gydag awdurdau’r llwybr (na wyddwn i fod y fath gorff yn bodoli). Rhaid dweud bod Sbaen yn bencampwr ar fiwrocratiaeth. Hyd yn hyn, mynd adre’n waglaw.

Efallai bod Ribadesella yn awr wedi darganfod sut i dorri’r cwlwm. Wedi misoedd o bori dros fap y dref a’r llwybr drwyddi, fe ddwedodd rhywun “Ond doedd y stryd, na’r cei, ddim yno pan oedd cyfnod y pererinion yn ei anterth – mae’r map yn anghywir!” Oherwydd yn y cyfnod modern aeth trigolion y dref ati i newid cwrs afon Sella, a’i chulhau, drwy godi banciau cadarn a llenwi tu ôl iddyn nhw â thir, tir newydd sydd heddiw’n sylfaen i’r cei.

p1120633

A beth fydd yn digwydd nesaf? Wel, mwy o gyfarfodydd, wrth gwrs.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: