Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 18, 2019

Dathlu Bwyd yr Ardal

Wel helo. Nid wyf wedi ysgrifennu dim ers amser, oherwydd salwch. Ond dyma fi eto’n barod i deipio.

Os dewch chi ar eich gwyliau i Asturias, byddwch yn sylwin ddigon cyflym bod pobl yn siarad am eu bwyd. Bydd y teulu ar y ford drws nesaf yn y bwyty yn holir gweinydd yn drwyadl am beth sydd ym mhob plåt, o ble mae’n dod, ac yn y blaen. Ac os byddwch yn lwcus bydd eich ymweliad yn cyd-daro ag un o’r Jornadas Gastronómicas. Diwrnodiau Gwerthfawrogi Bwyd, yn llythrennol. Nid Gŵyl Fwyd ar y stryd, er bod rheina i gael hefyd, ond nifer o fwytai mewn ardal yn cynnig prydau 3 neu 4 cwrs ‘menus’ wedi eu seilio ar fwyd lleol traddodiadol, boed yn gig, yn bysgod neu’n llysieuyn.

Heddiw buom yn ciniawa ym mhentref Nueva de Llanes, ar benwythnos dathlu maíz, neu indiacorn, a blawd. Mae bar San Jorge wrth yr heol fawr, a’r bwyty yn ennill clod gan lawer un. Efallai nad yw’n swnio’n ddiddorol iawn, nac yn uchel ei nod, ond roedd pob plat yn ddanteithyn yr oedd y cogydd wedi meddwl llawer amdano a’i gyflwyno’n ddestlus.

Dyma´r plât cyntaf: crema de maíz con ajo negro y ajo asado. Hynny yw, cawl trwchus iawn o flawd indiacorn gyda garlleg rhost a darnau bach o arlleg du, ham wedi ffrio a phŷs ‘dagrau’ y tymor. Mae’r pŷs wedi dechrau dod yn ein gardd ni’r wythnos hon hefyd.

Am ryw reswm ni thynnais lun y plat nesaf, sef torto, disg bach o flawd indiacron wedi ffrio fel bod e’n chwythu lan, a sleisiau tenau iawn o afal, dot bach o fêl a phwdin du arno, pob peth yn fach iawn ac yn flasus tu hwnt.

Peidiwch â beirniadu’r ffotograffiaeth hyll, mae’r bwyd yn hyfryd! Tortos eto, y tro yma yn fychan iawn, gyda chregyn bylchog mewn saws llawn perlysiau, salad bach finegret, a darn o ddraenog môr gwyllt wedi ei ffrio’n berffaith. Mae fy nhafod yn cofio’r blas.

Craidd y dyddiau gwerthfawrogi bwyd yw cymryd rhywbeth yr oedd pobl yn ei fwyta yn ystod yr amser anodd, fel y rhyfel a’r newyn wedyn, a’i goginio mewn ffordd mwy modern, mewn ffordd sy’n arddangos gallu’r cogydd. A do, fe wnaethon nhw hynny yn y San Jorge. Diolch iddyn nhw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: