Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 11, 2019

Geirfa Etholiadau

Cofnod i helpu unrhyw un sy’n dilyn ymgyrch etholiadol Sbaen (28 Ebrill) neu’n edrych ymlaen at etholiadau Ewrop (23-26 Mai, yn ôl arfer y gwledydd). Yn Sbaen mae etholiadau bob amser ar ddydd Sul.

Mae etholwyr Sbaen yn gwirio’u henwau ar y censo electoral , y rhestr etholiadol. Byddant yn dodi’u papurau pleidleisio yn las urnas, y blychau pleidleisio. Mae’r enw hefyd yn cael ei defnyddio pan fydd etholiad yn cael ei gyhoeddi: llamado a las urnas .

Bydd ymgyrch etholiadol Sbaen yn parhau o nawr tan y dydd Gwener cyn yr etholiad. Cedwir y dydd Sadwrn, noswyl yr etholiad, fel jornada de reflexión, diwrnod o fyfyrdod heb weld na chlywed gan y pleidiau. Mae hefyd yn cael ei alw’n veda electoral, y gwaharddiad etholiadol. Ni fydd dim un encuesta, sondeo, neu arolwg barn yn cael eu cyhoeddi yn ystod y jornada de reflexión.

Y mesa electoral fydd yn rheoli pleidleisio a chyfri ym mhob ardal. Ac fe all unrhyw un sydd ar y censo electoral gael ei ddewis, ar hap, i fod yn rhan ohono. Nhw sy’n gofalu ar y llefydd pleidleisio (fydd wedi eu paratoi gydag urnas a phapurau. A nhw sy’n cyfri ac yn gwirio ar ôl i’r drysau cau am 20.00.

Ar y papur pleidleisio bydd gormod o enwau. Fe welir rhestrau o enwau ymgeiswyr, un i bob plaid, yn ôl penderfyniad y blaid honno. Lista cerrada yw hyn, rhestr gaeedig nad ydy’r etholwyr yn gallu ei newid, er enghraifft drwy ddewis un o un blaid ac un arall o blaid wahanol, na hyd yn oed newid trefn yr ymgeiswyr.

Mae Asturias yn un circumscripción (etholaeth, neu ardal etholiadol) gyda 7 o escaños (seddi) fydd yn cael eu rhannu yn ôl canran y bleidlais. 35 o flynyddoedd yn ôl roedd ganddi 10, ond wedi colli 3 oherwydd colli poblogaeth.

Ac ar ôl imi ysgrifennu hwn, cyhoeddodd El Pais erthygl ar yr un un pwnc yma – yn Sbaeneg, wrth gwrs.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: