Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 21, 2019

Etholiad Sbaen 2019: Effaith yr Eithafwyr

Bydd pobl Sbaen yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol ddydd Sul nesaf, 28 Ebrill. Ar hyn o bryd mae nifer yr aelodau o’r chwith a’r dde yn Siambr y Diputados yn agos iawn, a go brin bydd newid mawr.

Ond. Ond yn awr mae gan Sbaen ei heithafwyr adain-dde agored, sy’n awgrymu polisiau fyddai’n lles i ddynion gwyn canol oed yn fwy na neb arall. Ac sydd wrth gwrs yn erbyn unrhyw fath o annibyniaeth i Wlad y Basg a Chatalwnia. Maen nhw hyd yn oed yn sôn am ddiddymu’r pwerau sydd gan y rhanbarthau awtonomaidd ers diwedd unbeniaeth Franco.

Mae’r arolygon yn dweud y bydd Vox yn ennill seddi, efallai 18 i gyd. Ac efallai dylai’r blaid Doriaidd yn y DG nodi taw eu cymheiriaid yn y PP fydd ar eu colled. Bydd rhai o’u ffyddloniaid yn mynd at Vox, ac eraill at Ciudadanos, plaid sy’n gwisgo mantell y canol ond sydd mewn gwirionedd ar yr adain dde ac yn bennaf oll yn erbyn annibyniaeth i Gatalwnia. Mae nifer o resymau wrth gwrs, ond o’r diwedd mae rhai wedi troi oddi wrth y PP oherwydd yr hanesion lu o lwgrwobrwyo.

Ac y chwith, i’r gwrthwyneb. Mae’r arolygon yn rhagweld y PSOE, y blaid chwith-ganol fwyaf, yn ennill mwy o seddi ac yn eu cael nhw o hen ddilynwyr Unidas Podemos. Efallai bod newydd-deb protestwyr Podemos wedi colli ei sglein ac efallai hefyd bod etholwyr ar y chwith yn dewis pleidleisio i gadw nifer seddi Vox i lawr. Dyna mae nifer o bobl yn yr ardal hon yn dweud, o leiaf.

Bydd seddi Gwlad y Basg a Chatalwnia yn siŵr o rannu rhwng eu pleidiau neilltuol nhw yn gymaint â’r pleidiau Sbeinig, a bydd yn ddiddorol gweld beth fydd yr effaith yng Nghatalwnia gyda chymaint o gyn-arweinwyr yn dal yn y carchar neu ar wasgar.

Fel o’r blaen, mae’n debyg na fydd seddi y PSOE ac Unidas Podemos yn ddigon i reoli. Bydd angen y pleidiau chwith Basgaidd a Chatalanaidd, a bydd rhaid bargeinio. Ond os yw’r arolygon, a beth rwy’n clywed fan hyn, yn iawn, fe fydd gan Pedro Sánchez fwy o rym o fewn ei blaid ei hunan ac fel arweinydd gwladwriaeth.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: