Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mehefin 8, 2019

Cinio Penblwydd: El Retiro

Beth yw penblwydd ond cyfle i fynd i flasu pryd o fwyd mewn rhywle newydd? Mae gan Asturias, a’i ychydig dan filiwn o boblogaeth, wyth bwyty ag o leiaf un seren Michelin, felly roedd digon o ddewis.

Hyd yn oed yn ein rhanbarth ddibobledig ni mae 4 ar y rhestr serennog. Mae cael bwyd yn y pentrefi yn bleser. Ac wedi bod nifer o weithiau yn Corral del Indianu, yn Casa Marcial ac yn Arbidel, tro El Retiro oedd hi’r wythnos hon.

Dechrau gwael gawsom ni, rhaid dweud: glaw mawr yr holl 20 munud i’r orsaf drên yn y pentref nesaf, a’r trên ei hunan yn hwyr. Cerdded wedyn 20 munud arall ar hyd heol heb bafin, a chwympo i fewn drwy ddrws y bwyty yn wlyb ac yn newynnog.

Dechreusom ni’r diwrnod o’r newydd. Dewis o 3 bwydlen blasu sydd gan el Retiro, ac roeddem wedi dewis yr un canol, €78 yr un sy’n cynnwys bara a dŵr, ond nid y gwin.

Daeth y 3 chwrs cyntaf gyda’i gilydd wrth inni fwynhau glased o cava (fi) a manzanilla (fe). Côn bach fel côn hufen iâ arbennig o flasus, wedi ei lenwi â chig stecen tartare; darn bach o groen penfras wedi ei greisio, gyda brandâd o’r un pysgodyn, darnau bychain o oren ac olewyn; a torto, ffefryn lleol sydd fel crempogen o indiacorn, gyda smotiau o sardîn, llysiau o’r gril ac alioli.

I fynd gyda’r cyrsiau ‘mwy’, roeddem ni wedi dewis gwin Mencia o’r Bierzo; mae’r rhestr gwinoedd yn hir ac yn cynnwys llawer un drud. Roedd gan hwn ddigon o bersonoliaeth i bartneru popeth.

20190605_143355

Os rhywbeth, roedd y cyrsiau’n dod yn rhy gyflym. Wystrysen yn ei chragen gyda darnau bach o afal a phupur jalapeno, ar saws gwyrdd kiwi; corgimychiaid gyda darnau o gegddu, a deilen o endif gydag ‘aer’ ffenigl oedd yn syndod o gryf ei flas er gwaethaf ysgafnder ei deimlad. Tiwna coch mewn cawl indiacorn, gyda brwyniad a mole Mecsicaidd; Cegddu eto, wedi ei stemo am amser byr iawn, gyda chocos a gwymon.

Cawl clustiau mochyn gyda’r corgimwch carabinero mwyaf a welais erioed, y corff yn ddarnau yn y cawl, a’r pen ar blât arall gyda llwy fechan i gyrraedd y cwbl. Y clustiau wedi eu torri’n friwsion, sy’n gwneud nhw’n haws eu bwyta. Bron hwyaden o’r gril, ac yna’r ddau bwdin:

20190605_154029

 

Sgwarau bach o tocinillo del cielo (debyg i creme caramel), gyda smotiau o mango, ffrwyth pasion a hufen iâ oren waedlyd. Ac i gloi teisen sbynj siocled a choffi clasurol.

Roedd pob plât yn gasgliad bach o ddanteithion: pob flas, a’i berthynas â’r nesaf wedi ei gynllunio’n gelfydd. Rwy’n ymddiheuro am y lluniau; roeddwn ynghlwm wrth fy nghinio yn lle tynnu lluniau!

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: