Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 2, 2020

Alltud yn Amser y Corona

Colli’r tir, a cholli’r lluarth. Colli’r cymdogion, colli’r blodau. Colli’r creigiau, colli’r gwanwyn.

Oherwydd salwch teuluol, yng Nghymru oeddem ni pan gaewyd popeth gan gyfyngiadau Covid-19, ac yng Nghymru ydw i o hyd, ond yn meddwl, yn dyheu, am Astwrias. Oherwydd grŵp y cymdogion ar rwydwaith cymdeithasol, rwy’n gwybod ei bod hi’n heulog yno ond yn oer. Rwy’n gwybod nad ydy’n pŷs ni’n barod eto, wedi gwahodd ffrind i’w casglu a’u bwyta. Rwy’n gwybod hefyd bod Astwrias yn un o’r llefydd sydd wedi ei effeithio lleiaf gan y pla, ond eu bod yn poeni nawr a fydd pobl o Madrid a’r dinasoedd mawr eraill yn cyrraedd erbyn Sul y Blodau i fwrw’r Pasg.

Disgwylir i’r heddlu floco’r traffyrdd sy’n rheiddio o Madrid i bob cwr a thraeth. Pobl eraill wrth gwrs yn poeni am eu swyddi a’u busnesau, sy’n dibynnu ar ymwelwyr. Mae Semana Santa, yr wythnos cyn y Pasg yn ail i ddechrau Awst yn nhermau’i bwysigrwydd i’r diwydint twristiaeth.

Pe bawn i yno nawr, byddwn i wedi gwasgu olew’r cnau Ffrengig; byddai’r oren olaf wedi hen ffindo’i ffordd i’r gegin, a’r toriadau bach taragon wedi cael mynd i botiau mwy. Does wybod os bydd rheiny wedi goroesi: roedden nhw yn y tŷ gwydr, i gyd mewn un pot mawr. Mae cymdoges yn mynd heibio o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn, ond alla’i ddim gofyn iddi edrych ar ôl pob dim.

Pe bawn i yno nawr, byddwn yn eistedd ar y teras ac yn syllu ar y mynydd yn ceisio gweld a yw’r da byw wedi mynd lan eto. Byddwn ni wedi bwyta hanner cynnwys y rhewgell a’r jarau cadw – dyna yw eu pwrpas nhw, wedi’r cyfan.

Pe bawn i yno nawr, byddwn yn agor potel o seidr ymysg cyfeillion ac yn dathlu cyfeillgarwch.

A byddaf yn gwneud y pethau hyn i gyd eto, cewch chi weld!

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: