Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 18, 2020

Angladd yn Nhymor y Gofid

Heddiw mae cymdoges a chyfeilles yn cael ei chladdu. Nid wyf i yno, yn y pentref, i ddweud ffarwel, ond rwy’n gwybod bod y trigolion wedi deffro i sain y gloch. Cloch y meirw. Un gloch. Yn canu’n araf. Bydd yn canu eto pan fydd hi’n cyrraedd yr eglwys fach am y tro olaf,  yn ystod yr offeren, a phan fydd y cerbydau’n gadael am y fynwent lan ar ben y rhiw.

Yr arfer fan hyn yw bod holl drigolion y pentref, a’r pentrefi cyfagos, yn dod i angladd. Nid heddiw. Oherwydd y coronoafirws, dim ond 15 sy’n gallu bod yn yr eglwys, felly bydd y cymdogion eraill yn sefyll tu allan,  bob yn 2 fetr ar hyd yr heol.

 

Nid y firws a’i lladdodd, roedd wedi bod yn dost iawn ers misoedd, ac yn byw gyda’i nith mewn tref yng nghanolbarth Astwrias. Cyn hynny bu’n weithgar iawn yn y pentref; y tro diwethaf welais i hi roedd wedi mynnu dod, er gwaetha’r salwch,  i giniawa gyda’r grŵp oedd yn prynu tocynnau lotri – hi oedd bob amser wedi trefnu’r prynu.

Ni allaf fod yno heddiw i sefyll wrth ochr yr heol, ond byddaf yn ei gweld hi yn fy meddwl bob tro y byddaf yn cerdded lonydd y pentref.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: