Nôl yn nwyrain Astwrias ar ôl pedwar mis o gyfyngiadau teithio oherwydd y pandemig.
Mae llawer o bethau fel y disgwylid, yr ardd yn llawn chwyn a’r tŷ yn llawn llwch a gwe corryn. Mae pethau eraill yn wahanol, ond roeddem ni’n disgwyl hynny hefyd: codi dwylo ar y cymdogion dros y ffordd yn lle eu cofleidio nhw, gwisgo mwgwd drwy’r amser y tu allan i’r tŷ. Er rhaid dweud ein bod ni’n cael mynd o gwmpas y pentref heb fwgwd, onibai bod nifer fawr o bobl yn ymgasglu.
Does dim un achos wedi bod hyd yn hyn yn yr ardal hon; roeddwn i wir yn pryderu y byddwn yn cael y firws ar y fferi ac yn dod ag ef yma, ond ar ôl pythefnos does dim golwg o hynny. Ddydd Sadwrn, aethom ni ar daith gerdded gyda’r grŵp lleol: eto, dim cofleidio o gyfarch, a phawb yn cadw tipyn bach mwy o bellter nag arfer.
Am 0830 ddechreusom ni o glogwyni bae Guadamia, yn anelu tua’r gorllewin, 9km ar hyd ochr y môr i Ribeseya/Ribadesella. Roedd hi’n ddiwrnod afresymol o dwym ar gyfer cerdded, ond roedd y gwynt o’r gogledd ddwyrain yn ein cefnau yn ein gwthio ymlaen.
Edrych tua nôl y mae’r llun, i gael y gwrthgyferbyniad llym o dan yr haul. Mae arfordir Astwrias yn llawn palos, y creigiau unigol tal ychydig oddi ar y tir mawr.
Dwy awr a hanner buom ni’n gwneud y daith i’r dref
ond aethom ni ddim i lawr rhag ofn byddai torfeydd yn y strydoedd.
Roedd hi’n amser cinio; dyna mae’n debyg pam fod y traeth yn edrych yn wag. roeddwn i wedi clywed gan bobl y farchnad a’r siopau bod llawer mwy o brynu bwyd i’w baratoi gartre.
Ai dyma’r normal newydd? Does gen i ddim ateb eto.
Gadael Ymateb