Nodyn i chi sy’n dilyn helynt y llyfr.
Er gwaethaf holl broblemau’r Gofid, a’r trybini achosodd i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru – colli Steddfod! – mae gobaith y bydd y llyfr yn ymddangos erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2021.
Os dysgais i unrhyw beth yn ystod y pum mis diwethaf, peidio gwneud cynlluniau mawr am y dyfodol heb ddisgwyl newidiadau yr un mor fawr yw hynny.
Mae’r lle’n llawn ymwelwyr ar hyn o bryd, felly byddaf yn mynd i ymdrochi tua 0930! Dyma’r olygfa wrth nofio yn yr aber, yn edrych tua’r de, lan yr afon. Paradwys wir.
Edrych mlaen yn arw at weld y llyfr!
By: Luned Rhys Parri on Awst 14, 2020
at 1:24 pm
Diolch Luned, byddaf yn cysylltu cyn bo hir ynglyn â defnyddio dy waith fel llun y clawr.
By: cathasturias on Awst 14, 2020
at 2:00 pm