Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 2, 2020

Gwynt y Cnau

Mae gwynt y cnau wedi dod yn gynnar eleni. Wrth ddod yn ôl o’r farchnad y bore ma sylwais i ar nifer o gnau Ffrengig ar y pafin o flaen y tŷ. Roedd hi’n dal i fwrw glaw’n drwm, felly dim ond y prynhawn yma ar ôl cael paned es i mâs i weld beth oedd gyda ni. Mewn blwyddyn dda, gall fod gymaint â 30 cilo.

P1190966 - Version 2

A diolch byth mod i wedi mynd â hen bwced paent eitha maint, oherwydd roedd llawer mwy wedi disgyn nag oeddwn yn disgwyl. Rhai da, tew, hefyd yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.

Ar ôl eu hachub o’r borfa wlyb, es i â nhw lan i’r corredor (balconi), y lle traddodiadaol i syhu pob math o gynnyrch. 10 cilo meddai’r balans, ond maen nhw mor wlyb bydd y pwysau iawn yn llai na hynny. Newydd fynd allan yno nawr ydw i, achos mae’r gwynt a’r glaw wedi dechrau o ddifri eto – diolch Storom Alex – ond mae popeth i weld yn ddiogel.

Welîs yw’r esgidiau sydd eu hangen ar gyfer casglu cnau o’r llawr. Maen nhw’n denau, a bydd dy draed yn gallu teimlo pob cneuen, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu cuddio gan ddail, gan chwyn neu gan eu plisg allanol eu hunain sydd heb dorri’n rhydd.

Os gewn ni hanner awr o gadoediad gan y tywydd yfory, af i mâs eto, achos mae’n hwyl chwilio am y trysorau cudd ymhlith toreth o bethau liwiau tebyg.


Responses

  1. Cuánta envidia se va a despertar con esta foto, Cath, a hei lwc o ran y tywydd fory, mae hi yr un peth yma! A mal tiempo, buenas avellanas … ocei, efallai ddim!

    Wn i ddim wyt ti wedi clywed am y nofel hon ar gyfer pobl yn eu harddegau (ac ambell i un arall!) sydd newydd ei chyhoeddi … ‘Y Pibgorn Hud’, cei adolygiad ohoni yma https://gwanas.wordpress.com/ ond meddwl roeddwn y byddet â diddordeb ynddi gan fod hanner y nofel wedi’i lleoli rywle ar y ffin rhwng Galicia ac Asturias (hanner ffordd lan Moryd Ribadeo?? o bosibl)… ond yn y 6ed ganrif … difyr!

    Cofion atat,
    Patrick


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

<span>%d</span> bloggers like this: