Rhan nesaf yr ymgyrch i gael pawb i ddarllen y llyfr… neu o leiaf i wybod mwy am Astwrias.
Yfory am 1705 amser Prydain byddaf yn siarad gyda Dei Tomos ar ei raglen ar Radio Cymru.
Bydd Dafydd Iwan ymlaen yn gyntaf, nid fel rhyw fath o ‘warm-yp’ ond yn sôn am ei lyfr ef o atgofion drwy ganeuon.
Gobeithio byddwch yn gallu gwrando yn fyw neu wedyn.
Helo o Brighton! Newydd wrando arnoch chi ar y radio. Braf clywed am Astwrias a’ch llyfr; rwy’n falch ei bod ar fin cael ei gyhoeddi. Gobeithio’ch bod chi’n cadw’n dda a chewch chi gyfle i fynd draw cyn bo hir. Rwyf innau’n gobeithio cael ymweliad bach ag Oviedo rywbryd yn ystod yr haf os oes modd. Os af i mor bell â Ribadesella y tro hwn, rhodda’i wybod i chi. Cymerwch ofal a phob hwyl. Cofiwch fi at eich gwr hefyd.
Gordon
By: Gordon on Mai 3, 2021
at 11:00 pm
Diolch Gordon, mae’n dda iawn gen i glywed wrthoch chi! Er beth ddywedodd Dei, mae’r llyfr yn y siopau yn barod, neu allwch chi ei archebu gan https://carreg-gwalch.cymru/
By: cathasturias on Mai 4, 2021
at 11:01 am
Diflannodd yr ymateb 1af o flaen ei amser! Mynd i ddweud oeddwn i fy mod ar y pennod olaf o’r cyfieithiad Sbaeneg ac yn dechrau chwilio am gyhoeddwr. Yn falch iawn eich bod yn cadw’n dda a gobeithio’ch gweld yn Astwrias eleni
By: cathasturias on Mai 4, 2021
at 11:04 am