Does gen i ddim byd i ddangos i chi, dim ond miloedd o eiriau a degau o luniau sydd yn awr yn ddiogel yn nwylo’r wasg.
Ond mae’r broses o gyhoeddi’r llyfr yn mynd rhagddo, a mawr obeithio y bydd ar gael erbyn dechrau mis Mawrth.
A hyd yn oed yn ystod y broses, rwyf i wedi bod yn dysgu pethau newydd ac yn gwneud newidiadau. Wyddwn i ddim, er nghraifft, bod cymaint o Gymry, yn enwedig yr uchelwyr a’u beirdd, wedi croesi’r môr 800 mlynedd yn ôl ar bererindod i Santiago de Compostela. Ond dyma fi nawr yn darllen cywydd Gruffudd Gryg i’r Don, yn ei disgrifio fel ‘mawrfwrm newyddgwrw morfeirch’ ac yn deall i’r dim y math o storom a oroesodd.
Mwy o newyddion wrth inni fynd i’r flwyddyn newydd, a gobeithio bydd honno’n un llawer gwell na 2020.
Onid seidr yw diod Astwrias? Wel ie, mae pobl ym mhob ran o Astwrias yn macsu seidr ac yn ei yfed rownd y flwyddyn.
Ond mewn un cwm yn y de-orllewin, gwin sy’n teyrnasu. Flynyddoedd yn ôl, roedd y gwin hwn yn llawn haeddu’r enw gwael oedd ganddo. “Imbebible” meddai cyfaill, anyfadwy, a wir i ddyn, bobl, roedd hyn yn wir. A dyma ni, bymtheng mlynedd yn ddiweddarach, yn mynd yno i flasu gwinoedd Cangas de Narcea ar eu newydd wedd.
O ystyried ei daearyddiaeth, mae awgrymiadau pendant y byddai gwinllannau’n llewyrchu yma: dros y ffin y mae’r Bierzo, sydd erbyn hyn yn ardal win enwog, a Galicia gyda’i grawnwin neilltuol. Ond mae cwrs afon Narcea tua’r Iwerydd, y gogledd, a mae hynny’n golygu hinsawdd wahanol iawn: mwy o law, llai o haul. Ac mae eu gwinwydd hefyd o wahanol dras, yn dwyn enwau anghyffredin: Albarín Negro a Blanco, Carrasquín, Verdejo Negro, Albilla.
Dim ond llond dwrn o bodegas sydd wedi eu cofrestru’n swyddogol ac yn gwerthu eu cynnyrch y tu allan i’r cwm: bodegas bach teuluol yw’r gweddill o hyd. Yn ystod y daith buom yn ymweld â dwy bodega, a chawsom y cyfle i flasu cynnyrch tair arall mewn barau neu wrth fwyta. Ond, roedd ein hamseru yn wael: cyn lleied yw’r gwin a gynhyrchir bob blwyddyn, roedd bron popeth wedi gorffen erbyn y gwinaeaf nesaf, a dyna pryd oeddem ni yno. Ym mis chefror neu Fawrth bydd gwinoedd 2020 yn dod i’r farchnad.
Grawnwin cymysg sydd yn y rhan fwyaf o’r gwin coch ifanc, gwin y flwyddyn, gyda’r Carrasquin yn asgwrn cefn iddo. Ond o ran gwin gwyn, rhaid dweud bod yr Albarín Blanco yn agoriad llygad. Digonedd o ffrwyth ynddo ac eto ddim yn ‘dew’.
Y ffordd orau o ddod i adnabod gwinoedd yr ardal yw mynd i Cangas de narcea, pan fydd hynny eto’n bosib, a mynd o gwmpas barau’r dref yn blasu amryw ac yn penderfynu beth sy’n apelio.
Ddeuddydd yn ôl, wrth imi sefyll mewn cornel o’r ardd a meddwl am beth y gallwn ni ei wneud i’w wella, daeth ymosodiad annisgwyl o rywle o’m blaen. Yn sydyn roedd fy mreichiau’n llosgi a picwns mawr yn creu sŵn rhyfel o’m cwmpas.
Roeddwn i wedi mynd yn rhy agos i nith y Vespa velutina, picynen o Asia sydd wedi ymgartrefu yn Sbaen ac yn hapus iawn yma. Oherwydd eu maint, maen nhw’n cario lot o wenwyn, ac roeddwn i wedi cael fy mhigo o leiaf bum gwaith, felly ffwrdd â ni i’r dref i weld y meddyg a chael triniaeth. Diolch byth nad wyf, mae’n debyg, yn adweithio’n ddrwg i’r gwenwyn: mae sawl un wedi marw ar ôl pigiadau.
Mae’r velutina yn bwyta gwenyn. Ers iddi ymddangos yn yr ardal hon mae pawb sy’n cadw gwenyn wedi colli llawer, ac ychydig iawn o fêl sydd ar werth. Mae diffyg gwenyn hefyd wrth gwrs yn cael effaith ar beillio planhigion. Felly mae gwefan arbennig i helpu pobl i adnabod nith y gelyn, sydd yn fawr – unrhyw beth o faint pêl droed fel yr un oedd yn yr ardd hyd at rai 1m o hyd yn uchel mewn coed. Gyrrais i ebost y noson honno, a’r bore wedyn dyma ateb yn gofyn am leoliad union y nith. Defnyddiais y GPS ar y ffôn i gael hwnnw, ac o fewn yr awr roedden nhw yno!
Roeddem ni eisoes wedi clywed ffrwydriad a gweld mŵg i lawr ar lan yr afon – digwydd bod yno roedd y criw pan ddaeth ein galwad ni. Gan bod y nith yn yr ardd yn haws ei gyrraedd, ni fu ffrwydriad arall: gwenwyn a ddefnyddiwyd gan y lladdwyr, yn eu gwisg hazmat coch, cyn torri’r nith yn ddarnau. Nid yn unig y picwns, ond eu dinas wedi diflannu.
Mae’r ardd yn awr dipyn bach yn fwy diogel i’r gwenyn.
Rydym ni wedi bod yn gadael i gerrig afocados epilio yn y domen gompost ers tro, ac wedi plannu ambell un a’u gweld yn tyfu’n dal. Ond tan heddiw ni welsom yr un ffrwyth. Tan heddiw!
Nawr bydd rhaid chwilio am fwy o wybodaeth: sut i wybod pryd i’w casglu nhw, fyddan nhw i gyd yn barod ar y pryd (mae’n edrych felly).
Maen nhw’n goed tal iawn, ym mhen pella’r cae – gobeithio gawn ni aros i’r ffrwyth i ddisgyn yn lle gorfod esgyn ar ysgol 5m a mqy.
Mae gwynt y cnau wedi dod yn gynnar eleni. Wrth ddod yn ôl o’r farchnad y bore ma sylwais i ar nifer o gnau Ffrengig ar y pafin o flaen y tŷ. Roedd hi’n dal i fwrw glaw’n drwm, felly dim ond y prynhawn yma ar ôl cael paned es i mâs i weld beth oedd gyda ni. Mewn blwyddyn dda, gall fod gymaint â 30 cilo.
A diolch byth mod i wedi mynd â hen bwced paent eitha maint, oherwydd roedd llawer mwy wedi disgyn nag oeddwn yn disgwyl. Rhai da, tew, hefyd yw’r rhan fwyaf ohonyn nhw.
Ar ôl eu hachub o’r borfa wlyb, es i â nhw lan i’r corredor (balconi), y lle traddodiadaol i syhu pob math o gynnyrch. 10 cilo meddai’r balans, ond maen nhw mor wlyb bydd y pwysau iawn yn llai na hynny. Newydd fynd allan yno nawr ydw i, achos mae’r gwynt a’r glaw wedi dechrau o ddifri eto – diolch Storom Alex – ond mae popeth i weld yn ddiogel.
Welîs yw’r esgidiau sydd eu hangen ar gyfer casglu cnau o’r llawr. Maen nhw’n denau, a bydd dy draed yn gallu teimlo pob cneuen, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu cuddio gan ddail, gan chwyn neu gan eu plisg allanol eu hunain sydd heb dorri’n rhydd.
Os gewn ni hanner awr o gadoediad gan y tywydd yfory, af i mâs eto, achos mae’n hwyl chwilio am y trysorau cudd ymhlith toreth o bethau liwiau tebyg.
Er gwaethaf holl broblemau’r Gofid, a’r trybini achosodd i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru – colli Steddfod! – mae gobaith y bydd y llyfr yn ymddangos erbyn Dydd Gŵyl Dewi 2021.
Os dysgais i unrhyw beth yn ystod y pum mis diwethaf, peidio gwneud cynlluniau mawr am y dyfodol heb ddisgwyl newidiadau yr un mor fawr yw hynny.
Mae’r lle’n llawn ymwelwyr ar hyn o bryd, felly byddaf yn mynd i ymdrochi tua 0930! Dyma’r olygfa wrth nofio yn yr aber, yn edrych tua’r de, lan yr afon. Paradwys wir.
Nôl yn nwyrain Astwrias ar ôl pedwar mis o gyfyngiadau teithio oherwydd y pandemig.
Mae llawer o bethau fel y disgwylid, yr ardd yn llawn chwyn a’r tŷ yn llawn llwch a gwe corryn. Mae pethau eraill yn wahanol, ond roeddem ni’n disgwyl hynny hefyd: codi dwylo ar y cymdogion dros y ffordd yn lle eu cofleidio nhw, gwisgo mwgwd drwy’r amser y tu allan i’r tŷ. Er rhaid dweud ein bod ni’n cael mynd o gwmpas y pentref heb fwgwd, onibai bod nifer fawr o bobl yn ymgasglu.
Does dim un achos wedi bod hyd yn hyn yn yr ardal hon; roeddwn i wir yn pryderu y byddwn yn cael y firws ar y fferi ac yn dod ag ef yma, ond ar ôl pythefnos does dim golwg o hynny. Ddydd Sadwrn, aethom ni ar daith gerdded gyda’r grŵp lleol: eto, dim cofleidio o gyfarch, a phawb yn cadw tipyn bach mwy o bellter nag arfer.
Am 0830 ddechreusom ni o glogwyni bae Guadamia, yn anelu tua’r gorllewin, 9km ar hyd ochr y môr i Ribeseya/Ribadesella. Roedd hi’n ddiwrnod afresymol o dwym ar gyfer cerdded, ond roedd y gwynt o’r gogledd ddwyrain yn ein cefnau yn ein gwthio ymlaen.
Edrych tua nôl y mae’r llun, i gael y gwrthgyferbyniad llym o dan yr haul. Mae arfordir Astwrias yn llawn palos, y creigiau unigol tal ychydig oddi ar y tir mawr.
Dwy awr a hanner buom ni’n gwneud y daith i’r dref
ond aethom ni ddim i lawr rhag ofn byddai torfeydd yn y strydoedd.
Roedd hi’n amser cinio; dyna mae’n debyg pam fod y traeth yn edrych yn wag. roeddwn i wedi clywed gan bobl y farchnad a’r siopau bod llawer mwy o brynu bwyd i’w baratoi gartre.
Ai dyma’r normal newydd? Does gen i ddim ateb eto.
Petai rhywun wedi gofyn imi yn ystod fy ieuenctid, neu flynyddoedd fy ngyrfa, a oedd ots gen i am ansicrwydd bywyd, byddwn i siŵr o fod wedi ateb fy mod yn ei groesawu.
Wrth gwrs, roedd pethau gwael yn dod yn eu tro, ond yn gyffredinol roeddwn yn gweld ansicrwydd fel rhywbeth angenrheidiol ar y ffordd i wella – ac i fwynhau – fy mywyd a’r byd o’m cwmpas. Pan ddeuai troeon anodd, y broblem imi oedd, nid eu bod yn llusgo ansicrwydd yn eu sgîl, ond eu bod yn sicr ofnadwy a bod rhaid canolbwyntio arnyn nhw i gyrraedd yr ochr draw.
Nid felly y Gofid Mawr. Does dim dal ble na phwy fydd yn cael eu taro, a dim modd cael gwybod hynny.
Inni, mae’r ansicrwydd ynglŷn â phryd a sut gawn ni fynd yn ôl i Astwrias yn rhoi stop ar bopeth, mae hynny’n sicr. Er bod llywodraeth Sbaen yn awr wedi cyhoeddi caniatad i ddinasyddion y DG fynd yno, dyw llywodraeth San Steffan yn dal i ddweud na ddylid teithio dramor o gwbl, a’r cwmni llongau heb gyhoeddi dyddiad ailddechrau hwylio, na faint o bobl fydd yn cael mynd ar bob llong, na faint o fordeithiau fydd.
Hyd nes eu bod nhw’n dweud wrthym ni fod ein tocynnau’n ddilys, ni allwn fod yn sicr o ddim byd.
Heddiw mae cymdoges a chyfeilles yn cael ei chladdu. Nid wyf i yno, yn y pentref, i ddweud ffarwel, ond rwy’n gwybod bod y trigolion wedi deffro i sain y gloch. Cloch y meirw. Un gloch. Yn canu’n araf. Bydd yn canu eto pan fydd hi’n cyrraedd yr eglwys fach am y tro olaf, yn ystod yr offeren, a phan fydd y cerbydau’n gadael am y fynwent lan ar ben y rhiw.
Yr arfer fan hyn yw bod holl drigolion y pentref, a’r pentrefi cyfagos, yn dod i angladd. Nid heddiw. Oherwydd y coronoafirws, dim ond 15 sy’n gallu bod yn yr eglwys, felly bydd y cymdogion eraill yn sefyll tu allan, bob yn 2 fetr ar hyd yr heol.
Nid y firws a’i lladdodd, roedd wedi bod yn dost iawn ers misoedd, ac yn byw gyda’i nith mewn tref yng nghanolbarth Astwrias. Cyn hynny bu’n weithgar iawn yn y pentref; y tro diwethaf welais i hi roedd wedi mynnu dod, er gwaetha’r salwch, i giniawa gyda’r grŵp oedd yn prynu tocynnau lotri – hi oedd bob amser wedi trefnu’r prynu.
Ni allaf fod yno heddiw i sefyll wrth ochr yr heol, ond byddaf yn ei gweld hi yn fy meddwl bob tro y byddaf yn cerdded lonydd y pentref.
Diwrnod yn llai yw slogan boreol fy nghymdogion, wrth i bobl aros am gael mynd allan eto i ailgydio yn eu bywydau. Ond a fydd hyn yn bosib? Ar ôl y pandemig, beth wedyn? Yn amlwg, bydd effaith difrifol ar y diwydiant twristiaeth, ond ni fydd Astwrias yn dioddef cynddrwg ag ardaloedd y De a Môr y Canoldir. Twristiaid o Sbaen sy’n dod yma, ac unwaith mae’r rheolau newydd yn gweithio, yn ôl y dôn nhw.
Bywyd bob dydd, arferion oes, fydd yn cael eu chwalu, a hynny i bawb.
Mae cyffwrdd â pherthnasau, â chyfeillion, â chydnabod, yn rhan o enaid diwylliant Sbaen.
Dwy gusan, un ar bob boch, wrth gwrdd â rhywun, a dwy wrth ffarwelio. Mae plant bach yn cael eu hannog i wneud hyn wrth ddysgu sut i ymddwyn gyda phobl eraill. Os byddwch chi’n mynd yn griw i’r bar, (os byddwn yn cael gwneud hynny yn y byd newydd), rhaid saludar, cyfarch, â phob un sydd yno pan fyddi di’n gyrraedd, a bydd yr hwyrddyfodiaid yn mynd rownd y ford yn gwneud yr un peth.
Ac ar ddiwedd y noson, yn sefyll yn y stryd, cylchu eto mewn dawns o gusnanau. Ac abrazos, cofleidiau cynnes, os ydych chi’n ffrindiau agos. Breichiau o amgylch ysgwyddau a dal yn dynn.
Mae hyd yn oed disgwyl iti ymddiheuro os wyt ti wedi methu rhywun ar y ffordd rownd. Bydd colled mawr ar ôl yr arfer hon; yn wir ni allaf ddychmygu bwyyd hebddo. Mewn ffordd, bydd yn fwy anodd na’r cyfnod yn gaeth i’r tŷ; mae’r rheolau hyn yn hysbys, a does dim cyfle cwrdd â neb. Ond pan fyddwn yn cael ein ‘rhyddhau’ o’r cwarantîn, awn yn syth i fewn i rywle lle bydd rhaid i ‘reolau’ newydd cael eu bathu ar unwaith rhag ofn y daw’r firws yn ei ôl.