Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 23, 2010

Gwres yr Haul (2)

At y ffigyrau: fe gostiodd y system dŵr twym solar sydd gyda ni rhyw €5000.
€300 am bob panel a €3000 am y gronfa glyfar, €200 am gyfnewidydd gwres, a’r gweddill am bibau dŵr, inswleiddio ac ati.
Y canlyniad cyntaf oedd ein bod yn gallu cael gwared â’r hen wresogydd ‘immersion’ trydan (er ein bod yn dal i’w ddefnyddio fel ail danc dŵr twym). Yr ail oedd ein bod yn gallu diffodd y boeler (sy’n llosgi olew) drwy gydol yr haf (rhyw bedwar mis o’r flwyddyn).
Dros flwyddyn gron, mae pob panel yn cynhyrchu cymaint o ddŵr twym mewn diwrnod ag y byddai 3kWh o drydan. Mwy yn yr haf, wrth gwrs, tua hanner yn y gwanwyn a’r hydref, a rhyw 10% yn y gaeaf. Mewn blwyddyn, cyfanswm o 1000kWh y panel.
Yn gyffredinol, nwy yw’r tanwydd rhataf, olew = nwyx2, trydan = nwyx3.
Rydyn ni wedi gweithio mas y byddai pob panel wedi arbed y gost o’i brynu mewn
5 mlynedd (o’i gymharu â thrydan), 7.5 mlynedd (olew), a 15 mlynedd (nwy).
Rhaid ystyried hefyd wrth gwrs pris y gronfa a’r pibau etc.
O.N. Dros y cyfnod y mae’r system wedi bod yn gweithio (18 mis), mae pris trydan yma wedi cynyddu 10%.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: