Mae blodau’r coed ffrwythau wedi hen fynd a’r ffrwythau bychain yn ymddangos.
Gellyg Williams yw’r rhain – pwy oedd Williams a pham y cafodd y peren yma ei enwi ar ei ôl, sdim syniad gyda fi. Blas hyfryd arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn cadw’n dda.
A dyma’r fricyllen (apricot). Coed gweddol ifanc yw’r rhain, a hyd yn hyn dydyn nhw ddim wedi llwyddo i gadw’u ffrwythau nes eu bod nhw’n barod i fwyta. Gobeithio am well hwyl eleni – o leiaf maen nhw wedi troi’r ffordd iawn, sy’n awgrymu bod tipyn o bwysau yno. (Mae’r gellyg, sy’n ffurfio ar ôl y bricyll, o hyd â’u tînau yn yr awyr).
Chwynnu fu’r dasg eto heddiw; mae’n syndod fel mae tipyn o law ar ôl wythnos heulog yn dod â nhw mâs yn eu miloedd.
Dwi wedi bod yn genfigenus iawn o sawl post gennyt: ffa, mefus ac yn y blaen. Mae tyfu ffrwythau dipyn mwy ansicr ychydig ganoedd o filltiroedd i'r gogledd! Roeddwn yn diawlio ddoe fod POB UN o'r gellyg man oedd wedi cnapio o'r blodau wedi disgyn. Pob un! Ro'n i'n swp sal. Diffyg dyfrio gen' i dros gyfnod sych mae'n siwr (tua pedair i bump oed ydi hi). Mae gen i ddwy goeden gellyg sydd ddim yn talu am eu lle a dweud y gwir, ac rwyf wedi rhoi clec i'r fricyllen uchelgeisiol dros y gaeaf! Be oeddwn yn ddisgwyl de ar uchder o 700 troedfedd.Ta waeth, mae'n edrych fel tymor ardderchog i'r ceirios sur sy'n tyfu fel gwyntyll yn erbyn ffens(ond bod rhai wythnosau eto cyn y caf eu hel), ac mae'r afal croen mochyn a'r afal Enlli yn hael eu haddewidion ar hyn o bryd hefyd. Hei lwc!Mi ddyliwn i chwilio am goeden gellyg Williams hefyd; efallai y rhoddaf fwy o sylw iddi oherwydd yr enw.
By: Wilias on Mai 31, 2010
at 10:17 pm
Rwy'n amau bod y fricyllen dipyn bach yn uchelgeisiol fan hyn hefyd – mae'n blodeuo mor gynnar, dyw'r gwenyn ddim o gwmpas. Bues i wrthi gyda brws peintio (lluniau, nid wal) yn rhoi help llaw. Beth am goeden eirin? Yn dibynnu faint o wynt oer sydd yna, rwy'n siwr y gallet ti gael un fyddai'n gwneud yn dda.
By: Cath on Mehefin 1, 2010
at 4:46 pm
Ia, mi hoffwn gael eirin neu gage, ond mae'r goeden afal croen mochyn wedi cymryd lle'r fricyllen rwan, ac mae gofod yn brin. 'Does byth digon o le nagoes!Mi grwydrais o faes eisteddfod yr Urdd ddoe, i erddi Llanerchaeron, a rhyfeddu ar hen hen goed afalau yno. Prydferth yn wir.
By: Wilias on Mehefin 6, 2010
at 7:07 pm