Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 13, 2010

Yn Ol i’w Filltir Sgwâr

Heddiw bues i’n darllen ysgrif gan foi a adawodd ei bentre, yn y mynyddoedd yn ne-orllewin Asturias, i fynd yn llenor. Erbyn hyn, ac yntau’n heneiddio, mae am fyw yno eto, ond mae’r rhod wedi troi o ddrifri a does na neb ar ôl ym mhentre ei febyd. Yr hen bobl wedi marw, y caeau’n wag, y pwll wedi cau a’r glowyr wedi mynd â’u pensiynau cynnar i fyw rhywle mwy cysurus. Mieri lle bu – ni mawredd, ond meysydd a lonydd a gerddi.
Mae’n cofio helpu ar y fferm pan oedd yn blentyn, yn taenu gwrtaith, yn lladd gwair, yn codi tato: blwyddyn ar ôl blwyddyn. Roedd e bryd hynny yn breuddwydio am fywyd ‘gwell’ ie, mwy cysurus  – gyda dŵr a thrydan yn cyrraedd y tŷ, er enghraifft. Ond ar yr un pryd, pan oedd yn carco’r tân myglyd ar gyfer halltu’r cig moch, doedd e fyth yn gallu’i ddychmygu ei hunan yn y byd arall hwnnw. Wel, fe gyrhaeddodd e yno rywsut, ac yn awr mae wedi cyrraedd gartref.
I atgyweirio’r tŷ, a chlirio’r ardd. Dyna ddigon, i ddechrau. Mae un o bentrefi anghofiedig Asturias yn cael ail gyfle.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: