Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 11, 2010

y Ffair Anifeiliaid

Mae holl fusnes prynu a gwerthu da byw erbyn hyn wedi symud i’r marchnadoedd sefydlog : mae hynny’r un mor wir am Asturias ag yw e am Gymru. Ond mewn rhai o bentrefi’r ardal hon mae olion yr hen ffeiriau i’w gweld. Ddoe oedd ein tro ni. Mae’r trigolion hýn yn cofio ffair oedd yn parhau am wythnos, yn cofio hôl y gwartheg o’r tir cymun ar y mynydd, ac yn cofio’r sipsiwn yn dod i brynu ceffylau.

Eleni ychydig iawn o wartheg a gerddodd ar hyd llwybrau’r pentref i’r cae penodedig (yr un un lle gawsom ni’r picnic y noson gynt – maen nhw’n dweud bod rhywbeth yn nogfenni’r tirfeddiannwr yn dweud bod rhaid darparu’r cae hwn ar gyfer y ffeiriau hyd yn oes oesoedd).

A dyma rhai o’r geifr. Fe gyrhaeddodd y rhain yng nghefn fan; mae unrhyw un sydd wedi ceisio hel geifr  at ei gilydd, heb sôn am gael nhw i fynd i’r lle iawn, yn deall synnwyr y peth.
Ffair San Lorens yw enw’r ffair, am fod gŵyl San Lorens yn cael ei dathlu ar Awst 10fed. A neithiwr, ar ôl noson arall (yr olaf!) o ddawnsio a miri, fe eisteddsom ni ar y teras i wylio Dagrau San Lorens, y sêr gwib sy’n ymddangos bob blwyddyn o gwmpas y diwrnod hwnnw. Roedd hi’n hawdd eu gweld am fod y noson yn glir a’r lleuad yn newydd felly ddim yn cystadlu gyda nhw. Dim lluniau, mae’n ddrwg gyda fi.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: