Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 7, 2014

Ariannin Parod

Yng nghanol yr holl gynaeafu, tomatos a ffigys a ffa, rwyf i wrthi’n brysur yn trefnu taith i Batagonia’r mis sy’n dod. Byddwn yn ymweld â threfi’r Wladfa, ond hefyd yn mentro i’r de ar hyd yr enwog Ruta 40 – cawn weld pa mor bell y cyrhaeddwn ni.

Un peth sydd wedi fy nharo yw cymaint y mae busnesau bach a chanolig eu maint yn ceisio osgoi delio gyda banciau. Does neb eisiau cael tâl drwy gerdyn credyd, pawb yn mynnu arian parod. A nifer ohonyn nhw yn mynnu arian tramor – doleri UDA fel arfer ond mae’r ewro yn dderbynadwy hefyd. Mantais hyn yn ddyblyg: hyd yn hyn ni fu rhaid talu dim o flaen llaw, ac mae nifer o lefydd yn cynnig telerau gwell am dalu felly. Hyd yn oed pan fydd gofyn am $Ariannin (y peso: maen nhw’n defnyddio’r un sumbol â’r doler, felly os nad yw’n amlwg rhaid gwirio pa un yw e!), yn aml bydd ffi ychwanegol os bydd y cwsmer yn dewis talu a cherdyn .

Fe ddwedodd un cwmni ei bod yn hala misoedd i gael yr arian i fewn i’w cyfri pe bai’r banc yn prosesu tâl cerdyn.

I raddau mae’r diffyg ffydd yn y banc yn bodoli yma yn Sbaen. Cyffredin iawn yw gweld pobl yn talu biliau eitha mawr gydag arian papur. Ac eto mewn llefydd eraill (yn Llundain, lle bues i’n ddiweddar) roedden nhw’n edrych arnom ni’n hurt am geisio gwneud hynny. Pa ffordd yr eith hi, tybed?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: