Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 25, 2010

Ymweliad â’r Cymdogion

Buom ni dros y ffin yn Galicia am ddiwrnod a hanner – dim ond digon o amser i ymweld ag arfordir y gogledd a dinas A Coruña. Mae’r tirwedd yn wahanol i fan hyn – y mynyddoedd yn bellach oddi wrth y môr a’r rias yn fwy llydan na’n aberoedd cul ni. Ond mae’r bobl yn debyg iawn a’r bwyd – yn enwedig y bwyd môr – yr un mor dda.

Dyma porthladd bychan O Barqueiro. Byddem ni wedi gallu cyrraedd yn y trên bach, ond gan y byddai hynny’n cymryd saith awr aethom ni yn y car. Dywedir bod y Phoeniciaid wedi cyrraedd y penrhyn yma yn ystod Oes yr Efydd; efallai taw o fan hyn yr hwylion nhw am Gymru ac Iwerddon. Yn ddiweddarach bu gorsaf deligraff

sydd yn awr yn hotel, a gorsaf lluoedd arfog yr Unol Daleithiau a oedd yn rhan o’r un sustem cyfeirio (LORAN) ag East Blockhouse yn Sir Benfro.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: