Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 16, 2011

Yr Ysgol a’r Eglwys

Os ewch chi nôl i’r ganrif ddiwethaf, y ddau begwn ym mhob pentref yn Sbaen oedd y cura (yr offeiriad) a’r maestro (yr athro). Yn drosiadol, nhw yw’r dde a’r chwith gwleidyddol, y traddodiadol a’r newydd. Mewn llyfr neu mewn ffilm, saif y ddau yn erbyn ei gilydd, y naill a’r llall yn ceisio ‘achub’ y pentrefwyr yn ei ffordd ei hunan.

Ac mae’r frwydr yn parhau. Mae cyrff sy’n rhan o’r Eglwys Gatholig, yn bennaf oll Opus Dei, yn rhedeg ysgolion sydd yn mwynhau statws arbennig: maen nhw’n derbyn arian oddi wrth y llywodraeth, ond nhw sy’n penderfynu pwy sy’n cael mynd yno. Dim mewnfudwyr, dim sipsiwn, dim tlodion, diolch yn fawr.

Mae llywodraeth Asturias yn awr yn ceisio rhoi stop ar yr arian sy’n mynd i ddwy ysgol felly yn ardal Oviedo. Nid am eu bod yn grefyddol, ond am fod un i fechgyn yn unig a’r llall i ferched. Mae Opus Dei ar ochr draddodiadol yr eglwys, yn enwedig ar faterion fel rheoli cenhedlu, ac yn ôl yr hyn yr wyf i wedi ei ddarllen yn tueddu i wahanu dynion a menywod (yn ogystal â bechgyn a merched) mewn ffordd sy’n atgoffa rhywun o Islam.

Ond mae Uchel Lys Asturias wedi cefnogi’r ysgolion, gan ddweud nad oedd hawl gan y llywodraeth gwneud hynny, er gwaethaf cymal yn y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n gwahardd talu arian cyhoeddus i gadw ysgolion un rhyw. Nid felly drws nesaf yn Cantabria, lle mae’r llys wedi datgan o blaid y llywodraeth mewn achos tebyg. Felly mae llywodraeth Asturias yn ystyried mynd â’i achos o flaen Uchel Lys Sbaen yn Madrid, er mwyn cael penderfyniad fydd yn ddilys ym mhob ran o Sbaen.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: