Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 5, 2012

Etholiad Eto

Fferi ni yn hwylio heno! Wedi cael tocynnau i gêm yr Eidal ddydd Sadwrn, wedi’r cwbl roeddwn i bownd o weld un o’r gemau eleni â’r bois yn chwarae cystal. Cyfle i wneud cylchdaith i weld y teulu hefyd.

Erbyn down ni nôl i Asturias fe fydd y lle’n llawn bwrlwm etholiad, llai na blwyddyn ers yr un diwethaf. Fe enillodd plaid Astwraidd (taleithiol – hynny yw, eisiau cael mwy i Asturias o fewn y drefn bresennol) FAC y llynedd, oherwydd anfodlonrwydd gyda’r sosialwyr a’r ceidwadwyr. Ond er bod y FAC ar yr adain dde, mae’r PP (ceidwadwyr) wedi gwrthod cydweithio â nhw ac wedi ochri gyda’r PSOE (sosialwyr) ar faterion fel y gyllideb. Heb gyllideb, fe benderfynodd llywydd senedd Asturias, Francisco Alvarez Cascos, alw etholiad newydd. Mae’r ceidwadwyr yn rhedeg llywodraeth Sbaen yn awr a’r bobl yn gweld o ddifri beth fydd effaith y toriadau. Hapchwarae o’r radd uchaf yw gofyn i’r etholwyr benderfynu nawr.

Fe fydd 18 (deunaw) o wahanol bleidiau a grwpiau ar y papur pleidleisio – byddai llyfryn yn well enw arno. Yn ogystal â’r pleidiau mawr, ymhlith y rhai sydd wedi cael y mil o bobl y mae angen i sefyll y mae tair plaid gomiwnyddol, tair plaid Astwraidd, grŵp ‘gadwch y seddi’n wag’, a grŵp o bobl ifainc sydd am ddod â’r pŵer a’r penderfyniadau at y bobol – atsain o fudiad yr indignados.

Digon i gadw fi i fynd am dipyn!


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: