Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 5, 2013

Dianc Rhag Franco

‘Roeddem ni’n chwarae yn y cae pan glywon ni fe: awyren yn hedfan yn isel tuag atom ni. Dechreuon ni redeg tua’r clawdd: dechreuodd e saethu, a saethu, hyd yn oed pan oeddem ni’n gorwedd o dan y clawdd roedd e i’w glywed.’ Bachgen o Wlad y Basg yn disgrifio’r eiliadau yn gynnar ym 1937 pan ddaeth rhyfel Sbaen i’w bentref. Awyrlu yr Almaen oedd yn hedfan uwchben, yn ymarfer ar gyfer un o droseddau rhyfel mwyaf y ganrif ddiwethaf, bomio Gernika.

Roedd yn un o’r lleisiau yn y ffilm To Say Goodbye, ffilm sy’n wirioneddol werth ei weld. Ychydig fisoedd ar ôl yr ymosod hwnnw yn y cae, fe hwyliodd 4000 o blant ar fwrdd y llong Habana o Santurtzi i Southampton. Mae rhyw 250 ohonyn nhw yn dal i fyw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a lleisiau 14 o’r rheiny sy’n adrodd eu hanes. Bu dewis a dethol eu cyfraniadau ynddo’i hunan yn gamp. Ond dydyn ni ddim yn gweld y ‘plant’ (yn eu hwythdegau a nawdegau erbyn hyn wrth gwrs). Cymysgedd o animeiddio a lluniau newyddion o’r cyfnod sydd yma, gyda’r effeithiadau sain wedi’u hychwanegu.

Y gred yng Ngwlad y Basg y gwanwyn hwnnw oedd y gallai’r Weriniaeth ennill y dydd. Roedd miloedd eisoes wedi colli eu cartrefi, a’r dynion wedi ymuno â’r fyddin. Yn erbyn y cefndir yma, sdim rhyfedd efallai fod cymaint o rieni wedi penderfynu danfon eu plant dros y môr ‘am dri mis, dim ond am dri mis’. Ond o fewn misoedd roedd dinas Bilbo wedi ei gorchfygu gan filwyr Franco.

Bu’r plant yn byw am fisoedd mewn pebyll yn ardal Southampton, cyn cael eu danfon ar elusennau neu deuluoedd mor bell i ffwrdd â Glagow a Hen Golwyn. Cafodd rhai o’r merched eu cartrefu mewn cwfaint, mewn cyfnod pan oedd yr eglwys Gatholig yn gefnogol iawn i Franco.

Ar ddiwedd rhyfel Sbaen (a dechrau’r ail ryfel byd) fe drefnwyd i’r rhan fwyaf o’r plant fynd yn ôl i Sbaen. Ond roedd yn rhaid i’r broses ddechrau yno, gyda’r teulu yn gofyn am eu dychwelyd. Ac wrth gwrs erbyn hyn roedd teuluoedd agos cannoedd o’r plant wedi eu lladd, neu’u carcharu. Doedd yno neb i ofyn amdanyn nhw.

Ces i’r fraint a’r hwyl o gwrdd â nifer o’r rhai sydd yn y ffilm yn ddiweddar, gan fwynhau eu cwmni ac edmygu eu hysbryd. Ac yn y dyfodol agos rwy’n gobeithio teithio i weld un arall, Josefina, sy’n dal i fyw yng Nghymru. Mwy amdani hi a’r hanes bryd hynny.

A chi bobol sy’n ymwneud â dangos ffilmiau: mae ‘To Say Goodbye’ yn un arbennig!


Gadael sylw

Categorïau