Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 6, 2011

Trên Cyflym yn Arafu

Rydym ni yn Sbaen yn dal i fyw drwy gyfnod o drawsnewid ar ôl etholiad yr 20fed o Dachwedd: er bod Rajoy a’r PP wedi ennill, ac ennill o ddigon, dyma faint o amser mae’n cymryd fan hyn i’r llywodraeth newydd gymryd yr awennau. Yr hen lywodraeth sy’n dal yn rheoli, o dan reolau; yn y cyfamser mae mis o drafod yn mynd ymlaen ynghylch materion sydd ar eu hanner, boed yn arian, newidiadau gweithiol, materion allanol (Ewrop!), neu  brosiectau trafnidiaeth.

A ie, trafnidiaeth. Ac yn enwedig, trenau. Daeth i’r amlwg heddiw bod y PP wedi gofyn yn unswydd i’r gweinidog trafnidiaeth dros dro i beidio ag arwyddo unrhyw gytundeb ynglŷn â llwybrau ymhellach i’r AVE (y trên cyflym iawn) yn Galicia. Bydd hyn yn golygu bod y leiniau sydd ar y gweill yn barod – mae un i fod i agor ddydd Sadwrn nesaf – ond yn uno prif ddinasoedd Galicia yn lle darparu dolen gyflym rhwng Galicia a gweddill Sbaen.

Mae’r hen lywodraeth, y PSOE, wedi cytuno i werth €3.8m o waith ar yr AVE yn Galicia yn ystod 2011 yn unig. Nid y blaid honno sy’n rhedeg pethau yn Galicia, y PP sydd wrth y llyw. Mae PP Galicia yn falch iawn o’r gwariant sydd wedi ei addo. Ond mae prif weinidog newydd Sbaen, Mariano Rajoy, a aned yn Galicia, yn llwyr ymwrthod â’r cynllun ac wedi ei wneud yn amlwg na fydd yn mynd ymlaen ag ef.

Ac yn Asturias? Rydym ni’n dal i aros. Fe fydd y lein AVE o Madrid yn cyrraedd dinas Léon mewn tua flwyddyn, a mae gwaith yn cael ei wneud ar y twneli a allai ei gario i Asturias. Ond ar hyn o bryd y bwriad yw inni aros gyda’r Alvia, y trên-ddim-cweit-mor-gyflym, sydd yn rhedeg ar lein o wahanol led. Mae’r AVE go iawn yn dal i fod yn y cynlluniau, ond does neb yn mentro rhoi dyddiad arno.

 


Ymatebion

  1. Trueni mawr am yr AVE yn Galicia. Beth yw diben lein sydd ddim ond yn cysylltu’r dinasoedd yno yn lle cysylltu’r ardal gyda gweddill y wlad? Dyw hynny ddim yn helpu dim ar wella trafnidiaeth i mewn i Galicia, un o’r rhannau o Sbaen sydd bellaf i ffwrdd o Madrid (ac sydd heb linell gyflym). Gobeithio y bydd y Llywodraeth newydd yn ailystyried hyn, ac hefyd yn sicrhau llinell gyflym i Asturias yn y dyfodol (agos).

  2. Are you sure that you really want an AVE in Asturias? The FEVE is charming (and rather inobtrusive) but what benefit would a high-speed rail link contribute, when you already have a superior (and almost finished) coastal motorway?

    • Current Asturias AVE route: Madrid-Léon-(Oviedo/Gijón). AVE del Cantábrico along coast is just a suggestion, not even a plan, so not mentioned here.


Gadael sylw

Categorïau