Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 22, 2013

Y Gwyll: Adolygiad o Fath

Fydd hwn ddim yn adolygiad clasurol, ond yn hytrach yn gasgliad o adwaith a hel meddyliau.

Y peth cyntaf sydd rhaid ei ddweud yw fy mod i wedi mwynhau’r gwylio. Ar ôl dechrau drwy ofyn ‘o na, sawl gwaith yr ydym ni wedi cwrdd â ditectif newydd i’r ardal sy’n byw ar ei ben ei hun ac yn llusgo problemau personol yn ei sgîl?’ wnes i ddod i hoffi’r perthynas o fewn y criw, a’r ffordd y datblygodd gydag amser. Serch hynny, roedd cymeriad Mared yn fwy diddorol yn yr wythnos gyntaf nag y bu wedyn. Diflannodd y gwrthdaro rhwng y ddwy fenyw yn glou iawn ond heb esbonio pam.

Roedd rhai o’r golygfeydd yn drawiadol o hyfryd: yn enwedig, efallai, agoriad yr hanes olaf. Dau fachgen yn croesi’r gors yn arwain ceffyl gwyn, ac yn dod o hyd i ferch mewn dillad coch yn ‘edrych’ arnyn nhw – nes iddyn nhw, a ni, sylweddoli taw celain oedd hi. Roedd natur seremoniol y dilyniant yn atsain o seremoni’r llofrudd a’i gosododd yn ofalus yno. A phan godon nhw’r babell drosti rhag y tywydd!  Roedd hi rhwng dathliad crefyddol a thwrnameint canol-oesol. Dim syndod o gwbl pan gawsom wybod taw astudio’r clasuron oedd Alys.

A’r teitl, y gwyll. Dyw e ddim yn air y byddaf yn ei ddefnyddio’n aml, ond imi roedd yn golygu rhywbeth rhwng gwyllt a thywyllwch, rhywle y tu hwnt i’r gyfraith (gwylliaid cochion Mawddwy?). Ac erbyn diwedd y bennod gyntaf roeddwn wedi penderfynu mai agwedd ar hynny oedd yma. Fe ges i fy magu ar gyrion tref farchnad arall yn y gorllewin. Roedd y diffyg ymddiried, a’r dibrisio, rhwng pobl y dre a phobl y ffermydd yn gyson ac yn gefndir i fywyd. Pobl cefn gwlad yn dwp (hambones, boscyns) ac yn hen ffasiwn, yn ôl eu cefndyr yn y dre. Ac mae’n wir bod rhai yn anwybyddu bodolaeth deddfau: rwy’n cofio cymydog yn cael ei arestio am yrru’n ddi-drwydded – am dros 30 o flynyddoedd.

Efallai bod gan y teimlad wreiddiau dwfn. Cerddi Edward Thomas ganrif yn ôl yn gadarn iawn yn erbyn y ‘forest’ , lle oedd y goedwig yn sefyll dros ‘popeth nad yw’n wareiddiad’. A dyna beth sy’n digwydd yn ‘Y Gwyll’. Mae’r troseddau mawr, y lladd, yn digwydd y tu hwnt i wareiddiad y dref. Mae’r ditectifs yn gorfod gadael y dref i ddatrys y peth, a dod â’r gyfraith i’r gwyll.

Beth hoffwn i weld nesaf? Cyfres arall, ie, ond un lle fyddai’n cymryd mwy nag wythnos i adrodd yr hanes. Rhythm arall.

 

 


Gadael sylw

Categorïau