Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 5, 2011

Cerdded y Cuera

Adref ac yn ceisio dodi rhyw fath o drefn ar luniau’r diwrnod. Gadawsom ni’r tŷ am 10.00 (ar fore Sadwrn!) a gyrru lan i El Mazuco, pentref yn un o’r cymoedd sy’n dod i lawr o sierra’r Cuera. Roedd ein cyfeillion wedi bod yno o’r blaen, medden nhw. Ond ar ôl tipyn fe ddaeth yn eglur eu bod nhw wedi dringo lan llwybr gwell. Wel, llwybr. Oherwydd fe aethom ni wrthi i gyrraedd y copa yn unionsyth drwy eithin a mwd.

Roedd y gwartheg, a’r tarw yma diolch byth, yn dal mewn caeau ar y llethrau islaw. Dim ond ychydig o geffylau a welsom, fel y gaseg yma,  yn chwilio am fwyd o dan yr eira.

Fe wnaf i ysgrifennu mwy am El Mazuco ryw ddiwrnod arall: yma y bu un o frwydrau mwyaf pwysig Rhyfel Sbaen yn Asturias. Ond heddiw diwrnod o gerdded oedd hi, ac wedyn – ar ôl i Gymru golli neithiwr – gweld Sporting Gijon yn colli hefyd. Ymlaen!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: