Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 3, 2011

Y Ffordd i Ennill

Bob dydd mae rhyw wleidydd neu arbenigwr yn dweud na allwn ni fforddio gwneud hyn a’r llall, bod yn rhaid torri’r gwariant a thalu mwy am beth sydd ar ôl. Ond gyda’r etholiadau taleithiol yn agosau, mae’r prif bleidiau yn Asturias yn chwarae gêm llawer hŷn: addo gweithiau mawr, cynlluniau crand fydd yn costio miliynau ac yn rhoi gwaith i filoedd.

Unwaith eto, heolydd yw’r ffefryn. Mae traffordd yr arfordir wedi ei pharlysu gan ddiffyg arian o lywodraeth Madrid, ond rywsut mae’r gwleidyddion lleol yn meddwl y bydd gyda nhw ddigon o euros i adeiladu’u rhai eu hunain. Mae’r sosialwyr, sydd yn ffurfio’r llywodraeth yn Asturias ar hyn o bryd (ac fel arfer, rhaid dweud),  yn credu taw’r ffordd orau i uno arfordir dwyrain y dalaith a’r mewndir mynyddig yw drwy palu twnel o dan mynyddoedd y Sueve.

Sierra del Sueve ffoto:cathasturias

Dau dwnel mewn gwirionedd, 3 km i gyd, ac yn costio (yn 2009 pan luniwyd y gyllideb) €200miliwn. Ond fe fyddai’n haneri’r pellter rhwng tref Arriondas a’r arfordir ac medden nhw yn achosi llai o newid i’r amgylchedd.

Mae pobl yr adain dde yn addo rhywbeth ychydig rhatach – o gwmpas €140miliwn – traffordd yn mynd o Ribadesella i Arriondas yn nyffryn y Sella. Traffordd fyddai’n cyd-orwedd â’r heol bresennol, yr afon, a’r lein rheilffordd.

Hyd yn hyn does na ddim lluniau i ddangos fel maen nhw’n golygu cael y cwbl i fewn, gan ystyried hefyd y llifogydd enfawr sy’n dod i lawr y Sella, yr eog a’r sewin sy’n byw ynddi  a’r miloedd o geufadwyr sy’n dod i’r ardal ac yn talu arian da i deithio ar ei hyd. Byddai’r draffordd hon, neu’r twnel, yn galluogi pobl i gyrraedd y mynyddoedd o’r arfordir yn gynt. Ond mewn gwirionedd dim ond yn ystod mis Awst mae ‘na broblem.

A gyda’r diffyg arian cyffredinol, dwi ddim yn gweld y naill na’r llall yn fwy na mŵg etholiadol.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: