Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 4, 2011

Y Farchnad

I’r farchnad yn Ribadesella’r bore ma i brynu orennau, afocados ac ychydig o bethau eraill na fedrwn ni ddim tyfu yn y lluarth (wel ddim drwy’r flwyddyn, beth bynnag).

Gwên ar fy ngwyneb pan welais i’r stondin garlleg. Dim ond pan fydd y cnwd newydd yn barod y bydd y fenyw yma’n ymddangos ymysg y stondinau caws a’r Affricanwyr gyda’u matiau llawn bagiau a gadgets.

€6 y kilo, 50c y llaw yn fras. Dwi ddim yn siŵr ai llaw yw’r gair iawn, ond gan ein bod ni’n sôn am ewin garlleg gobeithio’i fod e.

Gwên fwy pan welais i bod y ceirios cyntaf wedi cyrraedd o Extremadura, o’r dyffrynoedd Jerte a Vera. Does dim ceirios gwell i’w cael.

Mae mynd i’r farchnad fan hyn yn f’atgoffa o fod yn ferch fach. Wrth wylio’r cwsmeriaid mae’n amlwg bod y prynu a gwerthu’n bwysig, wrth gwrs, ond dim hanner mor bwysig â’r cyfle i gwrdd â phobl, i gymryd coffi bach a chael hen glonc.

Dyma’r unig ddiwrnod y mae’r adran gynllunio ar agor i’r cyhoedd, ac felly hefyd swyddfa’r weinyddiaeth amaeth sy’n rhoi trwyddedau cynnau tân ar dir agored, lladd anifail er mwyn ei fwyta, a physgota môr ‘hamdden’ – h.y. nad ydych chi ddim i fod i werthu’r pysgod. Mae trwydded i bob dim fan hyn.

Ymweliad bach â’r banc ac mae’n amser i gael cinio, ac adref tan yr wythnos nesaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: