Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 27, 2011

Blog 500

Y pumcanfed blog yr wyf i wedi ysgrifennu o Asturias. Cyfle ni yn unig i ryfeddu mod i wedi dal ati cyhyd, ond i fwrw golwg ar bynciau’r blog a meddwl sut fydda’i’n ei ddatblygu.

Garddio yw’r prif bwnc o ran nifer o gofnodion: ‘sgrifenna am bethau yr wyt yn gwybod amdanyn nhw’ – dyna fy ngwaith bob dydd, ond hefyd mae’n berthnasol i bobol ymhell o arfordir y Cantábrico a, gobeithio, yn ddiddorol hyd yn oed i’r rhai sydd byth yn codi rhaw.

Sydd yn ein harwain yn uniongyrchol at y gegin, diwedd taith y llysiau a’r ffrwyth. Rwyf i wedi arbrofi llawer wrth goginio , a weithiau gyda ‘wneith hyn gofnod’ yng nghefn y meddwl.

Yr amgylchedd wedyn, mewn sawl ystyr. Disgrifio harddwch (a chaledi) mynyddoedd y Picos de Europa, eu hanifeiliaid a’u blodau. Nodi’r bygythiadau lu a’r ymgyrchu yn eu herbyn, yn enwedig ein hymgyrch ni i gadw aber a thraeth y Guadamia yn gyhoeddus ac yn lân.

Ac o hynny, at ymgyrchu ehangach: etholiadau yn Catalunya ac Euskadi yn dod â llwyddiant i genedlaetholwyr tra gwahanol eu hathroniaeth wleidyddol. Etholiadau trefol yn cosbi’r PSOE: rhai am ei bod wedi gwneud gormod i geisio ail-adeiladu’r economi, eraill am nad yw’n gwneud digon. Ac o flaen y rheina i gyd, o rhan newydd-deb a’r posibilrwydd o newid sylfaenol, y cythruddedigion, los indignados, yn eu gwersylloedd ym mhrif sgwarau dinasoedd Sbaen o Madrid i Avilés. Mae’r cenedlaetholwyr wedi gweithio ers blynyddoedd i gyrraedd y safle lle maen nhw nawr, mewn grym mewn ugeiniau o lefydd. Dyn a ŵyr faint gymerith i’r cythruddedigion ennill yr un o’r newidiadau y maen nhw eisiau’u gweld.

Rwy’n eitha siwr y bydd y pethau yma i gyd yn cael eu trafod yn y blog yn y dyfodol eto, ond gobeithio byddaf yn gallu cael rhyw bynciau newydd hefyd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: