Daeth digon o law neithiwr i lenwi hanner y tanc dŵr: 500 liter, dim ond o do’r garej. Roedd ei eisiau fe’n ddifrifol ar yr ardd oherwydd sychder Medi.
Ni llwybr sydd yn y llun uchod, ond gwely’r afon Duje yn gynharach yn yr wythnos. Lan yn uchelderau’r Picos de Europa, mae tair wythnos sych yn golygu prinder dŵr. Mae’r hyn sydd i gael yn llifo tuag at lawr yn ddisymwth, ac yn cwympo drwy’r garreg galch i lifo danddaear am filltiroedd. Yn is i lawr, rydym ni’n derbyn peth o’r dŵr yma, ond eto, yn Arriondas lle mae’r Sella eisoes yn afon aeddfed, dyma fel yr oedd hi ychydig ddyddiau’n ôl:
Mae’r llinell rhwng y cerrig sychion a’r gwair yn dangos lle mae’r afon yn gallu cyrraedd, ond y diwrnod hwnnw byddai wedi bod yn hawdd cerdded o un ochr i’r llall heb dynnu dim ond dy sgidie.
Yn sicr does dim problem gyda’r cronfeydd dŵr oherwydd holl law misoedd yr haf, ond dwi ddim yn hoff iawn o ddwrhau gyda dŵr y tap oherwydd y cemegau. Dyna fydd rhaid, mae’n debyg, achos mae’r proffwydi tywydd yn darogan haul a thymheredd uchel eto’r wythnos nesaf. (Rhaid i rywun ddioddef!)
Wedi cael cawodydd trwm o genllysg yma yn Stiniog ddoe! Buan iawn y daeth yr ha’ bach i ben, ac mae wedi newid i deimlo’n aeafol yn gyflym iawn. Roeddwn ar ben y Moelwyn Mawr yn yr haul ddydd Sadwrn, ond yn methu gweld fawr pellach na ‘nhrwyn wedyn ar gopa Penygadair bnawn Llun, mewn niwl oer a gwynt cryf.
Wedi bod wrthi wedyn yn torri a hollti coed tan yn barod am y nosweithiau oer!
By: WIlias on Hydref 7, 2011
at 10:55 pm
Coed tân…ie, mae’r gaeaf ar y gorwel fan hyn hefyd. Wedi torri rhai o ganghennau’r goeden mimosa sydd yn wael iawn ac yn debyg o farw ar ôl storm y llynedd.
By: cathasturias on Hydref 8, 2011
at 3:12 pm