Daeth yr amser i ddadgloi un o byllau glo hynaf Asturias, y tro hwn fel atyniad i ymwelwyr. Pwll y Guelo, yng ngorllewin y dalaith, oedd y cyntaf oll lle suddwyd siafft: nid yn unig roedd y glowyr yn mynd i lawr mewn cawell ond roedden nhw’n gweithio o dan y môr yn ogystal ag o dan ddaear. Fe’i weithiwyd o 1834 hyd 1915, pan lifodd dŵr y môr drwy’r twneli am y tro olaf; roedd y gweithwyr eisoes wedi dioddef blynyddoedd o danau dan-ddaear (nwyon a diffyg aer) a llifogydd llai.
Yn fuan wedyn, yn ystod ac yn sgîl y Rhyfel Byd 1af, fe gyrhaeddodd diwydiant glo Asturias ei uchafbwynt, gyda 34,000 yn gweithio ynddo ym 1920. Llai na 4000 sydd yna nawr. A dyna pam mae cyngor Castrillon wedi penderfynu defnyddio’r hen i gryfhau’r newydd ac agor yr hen bwll i dwristiaid. Mae’n swnio’n ddiddorol, achos wedi gwylio’r fideo a gweld yr arddangosfa, bydd cyfle i fynd i lawr mewn cawell (newydd!) a cherdded drwy rai o’r twneli cyn dod mâs ar y traeth.
€5 miliwn oedd cost adnewyddu’r pwll ar gyfer ei yrfa newydd, y rhan fwyaf wedi dod o gronfeydd Ewropeaidd i helpu ardaloedd cyn-lofaol. Ond er ei fod yn atyniad fydd yn denu pobl, fydd e ddim yn cynnig llawer o swyddi, ac mae nifer o bobl yn dweud taw at ddarparu swyddi newydd i’r ifainc y dylai’r cronfeydd hynny gael eu defnyddio.
Gadael Ymateb