Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 4, 2012

Enw Newydd: Rubalcaba

Cymryd hoe rhwng yr holl rygbi sydd ar y teledu i gofnodi ambell i beth am arweinydd newydd y PSOE (sosialwyr).

Alfredo Pérez Rubalcaba sydd wedi ei hennill o 22 bleidlais yn unig 487 yn erbyn 465. Dyw hynny ddim yn bleidlais eang iawn, medd rhywun, wel nag yw. Mae’r PSOE yn dilyn yr hen drefn o ethol ei harweinydd mewn cynhadledd, gyda’r cynrychiolwyr yn bwrw pleidlais yn ôl dymuniad eu hardal/talaith.

Rubalcaba felly yw ysgrifennydd cyffredinol (maen nhw’n cadw at yr hen deitlau hefyd) newydd y PSOE yn olynu’r cyn brif weinidog Zapatero. 60 oed, yn y blaid gydol ei oes, yng nghabinet Zapatero fel gweinidog materion cartref a dirprwy iddo hefyd. Yn ôl y rhai oedd yn cefnogi’r ymgeisydd arall, Carme Chacon, mae’r blaid wedi colli cyfle i symud mlân cenhedlaeth, symud mlân i’r byd newydd technolegol di-waith. Roedd hithau yn weinidog (amddiffyn) yn llywodraeth Zapatero, ond mae’n ifancach, yn fenyw, ac yn dod o Catalunya, sydd yn rhyw fath o faes arbrofol yng ngwleidyddiaeth Sbaen.

Fydd gydag e ddim munud i eistedd yn ei swyddfa newydd: daw etholiadau cymunedol Andalucia, cymuned mwyaf Sbaen, cyn diwedd mis Mawrth, (yr un diwrnod â’r etholiadau annisgwyl yn Asturias.) Ac os bydd prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy, yn gwireddu hanner y pethau mae e wedi cyhoeddi, fe fydd yn jobyn llawn amser ei wrthwynebu yn enw’r gweithwyr a’r di-waith.

Ydy’r ffaith fod y bleidlais mor agos yn awgrymu nad yw’r PSOE yn unedig? Adwaith Carme Chacon a’i chefnogwyr fydd yn dangos a yw hynny’n wir neu dim ond yn gyhuddiad a geir gan wleidyddion o bleidiau eraill.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: