Beth sy’n digwydd gyda Ryanair? Mae’r cwmni, sy’n hedfan rhwng maes awyr Santander (yn Cantabría, ond dim ond awr i ffwrdd o’r tŷ) a Stansted, Dulyn a nifer o ddinasoedd yn Sbaen a gweddill Ewrop, newydd gyhoeddi ei fod am ddechrau hedfan o Bilbao (dwyawr o’t tŷ) – i’r DU, Iwerddon, a dinasoedd eraill o fewn Sbaen.
Yr hyn sy’n newydd yw bod talaith Vizcaya yn mynnu nad ydyn nhw wedi cytuno talu cymorthdal o unrhyw fath i Ryanair. Yn Santander, yn 2010, fe dderbyniodd y cwmni €4.5m gan lywodraeth Cantabría, h.y. €7 ar gyfer pob teithiwr. Bythefnos yn ôl, cafwyd y newyddion y byddai Ryanair yn hedfan o faes awyr Asturias i Madrid a Barcelona, eto, yn ôl y llywodraeth gymunedol, heb gymorthdal. Ond yn ôl y cylchgrawn economaidd Expansión, y llynedd fe dalwyd dros €80m o gymorthdal i Ryanair gan feysydd awyr Sbaen yn unig.
Efallai bod ar Ryanair ofn y gall Air France lwyddo yn yr achos mae wedi dwyn yn erbyn yr arfer o dalu cymorthdal. Achos fydd yn cymryd blynyddoedd, rwy’n siŵr. A hyd yn hyn model Ryanair oedd cael meysydd awyr rhanbarthol i ymladd yn erbyn ei gilydd er mwyn ennill y busnes. (Mae gormod o feysydd awyr; un bob awr o yrru ar hyd arfordir gogledd Sbaen). Os nad oes cymorthdal, beth? Yn amlwg maen nhw’n ffyddiog y bydd pobl yn dal i hedfan: ai’r Sbaenwyr ifainc sy’n gorfod gweithio dramor yw’r farchnad newydd? Ond mae’n anodd credu y bydd mwy o bobl yn hedfan, felly bydd cynnydd mewn un man yn golygu colli gwaith rywle arall.
Ac rwy’n siŵy bydd y contractau newydd yn eitha ffafriol i Ryanair hyd yn oed heb gymorthdal.
Gadael Ymateb