Mae’r mynyddoedd yn ymestyn o un pen o Asturias i’r llall. Y mwyaf yw Torrecerredo (2648m) yn y Picos de Europa yn nwyrain y gymuned. Mae’r llyn mwyaf, ar y llaw arall, y Lago del Valle (24ha), draw yn y gorllewin ym mharc cenedlaethol Somiedo. Mae Torrecerredo’n fwy na dwywaith uchder yr Wyddfa (1085m), ond mae llynnoedd Cymru lot yn fwy – Llyn Tegid yn 484ha.
Xixón/Gijón yw’r ddinas fwyaf, ond nid y brifddinas. (Uviéu/Oviedo yw honno.) Gydag ychydig dros 250,000 o bobl yn byw yno mae hi rywfaint yn llai na Chaerdydd. Ond am fod yr hen gyfundrefn o gynghorau’n parhau, yn enwedig yn y wlad, mae rhai llefydd yn dwyn enw a statws cyngor sydd dipyn bach yn llai: y lleiaf i gyd yw Pesoz, draw yn y gorllewin pell, sydd â 189 o oedolion wedi’u cofrestru yno.
Yr arfordir yw ail brif nodwedd Asturias ar ôl y mynyddoedd – 345km ohono, a dros 200 o draethau, er bod rhai o’r rheiny yn gildraethau bach anodd eu cyrraedd.
Mae 26 o afonydd yn cael eu cydnabod felly – naill ai oherwydd eu maint neu am eu bod yn llifo’n syth i’r môr. Maen nhw i gyd yn tarddu yn y mynyddoedd ac yn llifo i lawr i’r gogledd i Fôr y Cantábrico. Un o’r tair reit ar waelod y rhestr yw’r Guadamía; y fwyaf yw’r Nalón, sy’n teithio 129km o’r ffynhonell i’r aber. (Afon Hafren yn 354km.)
Gadael Ymateb