Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 14, 2012

Yr Ariannin a’r Olew

Pawb yn ymwybodol erbyn hyn bod arlywydd yr Ariannin wedi bod yn siarad yn fygythiol ynglŷn â’r Malfinas/Falklands? A bod pobl yn credu ei bod yn gwneud hyn oherwydd yr olew tanfor sydd o fewn dyfroedd yr ynysoedd hynny? Wel nawr mae’n gwneud rhywbeth tebyg gyda Sbaen. Cwmni olew Sbeinig, Repsol, sydd bia YPF, ac mae YPF newydd gyhoeddi darganfyddiad anferth mewn rhanbarth o dir siâl yn ne-ddwyrain yr Ariannin, yn nhalaith Neuquén. (Enw’r ardal, yn anffodus braidd, yw Vaca Muerta – Buwch wedi Trigo.)

Nid dim ond nwy siâl sydd yno, ond olew siâl hefyd, a hynny medden nhw o safon uchel. A digon ohono: 22.6bn o gasgenni yw’r amcangyfrif diweddaraf. Ymateb Cristina Kirchner oedd bygwth – dim byd uniongyrchol, ond y syniad ar led y gallai’r Ariannin gymryd drosodd YPF, yn erbyn ewyllys y cwmni, a dod yn berchen ar faes y Vaca Muerta. Bu sawl ddrafft o’r cynllun yn cael eu danfon o un swyddfa i’r llall, yn ôl y cyfryngau yn Sbaen ac yn yr Ariannin, a hynny gan gynnwys swyddfeydd YPF ei hunan. Ond dim byd yn swyddogol. Roedd yr arlywydd i fod i gyhoeddi’n bendant nos Iau beth fyddai dyfodol y cwmni, ond wnaeth hi ddim. Dim ond cynnal cyfarfod gyda llywodraethwyr rhanbarthau’r wlad lle mae olew a nwy yn bod.

Mae llywodraeth Sbaen, fel pob hen ymerodraeth, wedi cythruddo ac yn galw’r Ariannin yn bob enw. Ydyn nhw efallai yn gweld cysgod dwylo Tseina ar waith fan hyn? Achos ni fyddai gwladwriaeth yr Ariannin yn gallu fforddio datblygu’r maes olew. Ond fe fyddai Beijing yn gallu gwneud, ac mae eisiau olew a nwy arnyn nhw.


Gadael sylw

Categorïau