Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 23, 2012

Cau’r Pyllau Olaf?

Yn awr yr ydym ni’n dechrau gweld gwir ddiawl y llywodraeth PP. Iawn, rhaid derbyn eu bod nhw wedi ennill etholiad, ond mae’r toriadau a newidiadau eraill sy’n cael eu cyhoeddi’n feunyddiol yn mynd ymhell y tu hwnt i unrhyw beth a ddywedwyd yn ystod yr ymgyrch. Yn ystod yr ymgyrch ni ddywedwyd fawr ddim ynglŷn â manylion y polisi o arbed arian, na hyd yn oed y newidiadau yn y trefniadau ar gyfer gweithwyr sy’n colli’u gwaith.

Enghraifft: hyd yn oed ym mis Chwefror, ar ôl cymryd y llyw, roedden nhw’n dal i ddweud eu bod nhw’n cefnogi mesurau llywodraeth y PSOE gynt i hyrwyddo gwerthiant glo Sbeinig. Yn awr maen nhw wedi torri’r cymorthdaliadau i’r diwydiant glo o 70% – o €331m i €101m.

Fel hyn maen nhw wedi cyflawni un peth anodd: uno glowyr a pherchnogion yn erbyn y llywodraeth. Yn ôl un o’r cwmniau, ar ôl clywed y newyddion, ‘man a man inni adael allweddi’r pwll fan hyn ar y ford’. Fe ellid dadlau, wrth gwrs, na ddylid talu cymorthdal o gwbl. Ond os am newid cyfundrefn sydd mewn bodolaeth, yn raddol y mae gwneud hynny. Mae’r toriad hwn yn edrych fel cosb i’r glowyr a’r undebau. Ac mewn ardaloedd fel cymoedd Asturias a Leon, lle mae’r mwyafrid llethol o’r glofeydd eisoes wedi cau, does dim gwaith arall i gael. Mwy o ddiboblogi,  mwy o ddiweithdra.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: