Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 13, 2012

Yr Indignados Heddiw

Heno eto, flwyddyn ar ôl y dechrau, mae’r mudiad 15-M (y pymthegfed o Fai) yn ôl yn y sgwâr. Yr indignados, y cythruddedigion, yn Puerta del Sol, yng nghanol Madrid. Roedden nhw yno ddoe yn eu cannoedd o filoedd, a miloedd eraill yn Barcelona, Valencia, Malaga, Oviedo – holl ddinasoedd Sbaen.

A sut mae’r cyfrifon yn edrych, ar ôl blwyddyn? Wel, maen nhw’n dal i allu alw ar niferoedd mawr i ddod mâs ar y stryd i wrthdystio yn erbyn y toriadau a’r sefyllfa economaidd anobeithiol. Yn sicr maen nhw wedi bod yn ysgol i lawer un i ddysgu am wleidyddiaeth yn ystyr mwyaf eang y gair hwnnw. Dyw’r cyfarfodydd lleol, a fesul sector, ddim wedi stopio drwy gydol y flwyddyn. Maen nhw wedi cadw at yr egwyddor o fod yn heddychlon: yn bwysig iawn yn Sbaen lle mae gwir ofn grwpiau fydd yn ceisio ennill eu ffordd drwy drais.

Ond ar y llaw arall mae etholwyr Sbaen wedi dewis llywodraeth sy’n torri’n gynt ac yn llymach na’r un flaenorol. Mae cyfanswm o dri chwarter miliwn mwy o bobl ar y clwt. Mae dros hanner yr ieuenctid yn ddi-waith o’i gymharu â 40% yr amser hyn llynedd. Ac mae’r marchnadoedd arian wedi rhoi eu barn droeon am gyflwr yr wlad wrth ofyn cyfraddau llôg sy’n dringo’n uwch wrth y diwrnod.

Yn ôl pôl piniwn yn El País, mae cefnogaeth y cyhoedd wedi lleihau’n sylweddol. Roedd yr un pôl yn dangos bod y mwyafrif yn erbyn toriadau Rajoy, am nad oedden nhw’n credu y bydden nhw’n gweithio. Mae’n ymddangos bod pobl yn cilio fwyfwy o unrhyw fywyd cyhoeddus – y gymdeithas suful – ac fe ddylai hynny fod yn poeni pawb.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: