Dim gobaith gwneud dim yn yr ardd. Bob tro rwyt ti’n meddwl bod y glaw wedi cwpla, yn ôl y daw. Mae’r tir mor wlyb mae ôl ein traed yn eglur – ar ffurf pyllau bach o ddŵr. Ond o leiaf mae’r tocio wedi ei wneud, y coed ffrwythau’n aros am godiad bach yn y tymheredd (tua 9C yw’r isafswm ganoldydd, efallai 5C gyda’r nos) cyn dangos hyfrydwch eu blodau. Mae hyn yn beth da: y llynedd fe flodeuodd y coed ceirios a’r eirin yn gynnar iawn, ac wedyn difethwyd y blodau gan wynt oer. Dim ffrwyth.
Mae sawl planhigyn yn llwyddo i flodeuo serch hynny, a nid dim ond dant y llew a llygad y dydd. Abwtilon, briallu, cennin Pedr – gadael yr wyddor wedyn i gyrraedd gazania, lithodora, mimosa. Ac mae nifer o’r hadau a heuwyd yn y tŷ wedi egino: 3 math o domato, letys, cennin, a heddiw fy mhersli bach wedi codi’n smotiau gleision uwchben y pridd.
O gwmpas y pentref, mae’r cyni wedi gwneud i bobl ailfeddwl y caeau gweigion sydd gyda nhw. Daw hyn yn raddol yn sgîl cyfundrefn etifeddiaeth Sbaen, sy’n golygu bod rhywun yn gallu bod yn berchen ar diroedd bach mewn sawl lle, a’r rheiny weithiau’n bell o’u cartrefi. Tra’ roedd pethau’n dda, esgeuluswyd y caeau pellaf. Ond yn awr mae pethau’n newid. Mae cymydog yn bwriadu plannu mefus (o dan do plastig) fan hyn, rhywbeth hollol newydd i’r ardal.
A draw tua’r clogwyni, lle mewn 10 mlynedd ni welais i ddim ond eithin a mieri oedd yn dalach na fi, mae pobl wrthi’n clirio’r caeau. Dywed rhai bod tato’n tyfu’n well yn nes at y môr (ac felly’n bellach o effaith y mynydd). A bydd eraill yn cadw da: stoc yn ystod y gaeaf, neu tarw a chwpwl o fuchod er mwyn cenhedlu lloi. Ac ar y clogwyni eu hunain, ar y tir cymun, bydd pobl yn gadael y geifr sydd wedi bod dan do dros yr hirlwm. Dyw e ddim yn ddigon i ail-ddechrau’r economi, ond efallai bydd yn cadw ychydig mwy o bobl Asturias ar eu tir eu hunain.
Newydd ddarganfod dy blog ar hap. Hynod ddiddorol a llunie gwych.
By: Marian Delyth on Chwefror 14, 2013
at 7:39 pm
Diolch Marian! Tipyn o bopeth yw e, a rhywbeth at ddant pawb gobeithio.
By: cathasturias on Chwefror 15, 2013
at 12:53 pm