Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 12, 2016

Uno’r Chwith

Doedd gen i ddim hawl pleidleisio yn etholiad Sbaen nag yn etholiad Cymru, ond efallai bydd sylwadau rhywun sy’n gwylio o’r tu fâs yn ddiddorol.

Dyw’r ddwy sefyllfa post-etholiad ddim yn union ‘run peth, yn amlwg. Ond mae nifer o arweddion tebyg yr hoffwn i dynnu sylw atynt.

Yng Nghymry, fel yn Sbaen, mae ddau floc o’r chwith yn ideolegol fyddai â digon o aelodau i lywodraethu petaen nhw’n gweithio gyda’i gilydd. Yn fras, yn Sbaen:

y PSOE yn fwy tuag at ganol y sbectrwm gwleidyddol a Podemos a’r IU tuag at yr eithafion. Fe allwn ychwanegu rai o bleidiau y cenhedloedd llai fel Bildu (Basg) ac ERC (Catalan).

Methiant fu’r ymdrech i ffurfio llywodraeth drwy uno’r bloc oherwydd agwedd rhai o geffylau blaen y PSOE sy’n gwrthwynebu unrhyw symudiadau tuag at annibyniaeth. Fel canlyniad bydd etholiadau eto’r mis nesaf. Mae Podemos ac IU wedi dod i ryw fath o gytundeb ynglŷn ag ymgeiswyr yn gyffredin (system o restrau sydd yn Sbaen, nid seddau unigolion), ond yn Asturias mae hynny ynddo’i hun wedi creu anghydfod newydd oherwydd grym hanesyddol IU yma. Does dim golwg y bydd newid meddwl ar ran y PSOE.

Nôl ym mis Rhagfyr, roedd yr etholwyr, yn Sbaen fel yng Nghymru nawr, wedi mynnu llywodraeth o’r chwith. Mae arna’i ofn y bydd nifer wedi colli amynedd gyda’r holl drafod a ffaelu trafod ac yn aros gartref’r tro nesaf, gan adael y ffordd yn glir i’r PP (ceidwadol) i lywodraethu eto.

Wrth gwrs bod gwahaniaethau mawr rhwng pleidiau’r chwith ar nifer o bynciau. Ond oni fyddai’n well trafod y pethau hynny fesul pwnc, a hynny o fewn fframwaith lle mae gyda chi’r grym i wneud rhwybeth amdanyn nhw?


Gadael sylw

Categorïau