Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 18, 2023

Breuddwyd o Swydd

Mae’n chwe mis ers imi ysgrifennu blog yma. Ond heddiw darllenais i stori yn y wasg, yn el Comercio, oedd yn gofyn ei rhannu.

Yn ardal uchaf y Picos de Europa, lle mae copa Torrecerredo yn frenin ar y cwbl, mae mynydd unigryw, y Picu Urriellu, sy’n codi’n unionserth – craig 500m o uchder. Yng ngwaelod hwn, ar ymyl man gwastad y Vega de Urriellu, mae lloches i fynyddwyr – ac yn fwy na dim i ddringwyr, oherwydd mae ochrau heriol y Picu Urriellu yn ffefryn ymysg alpwyr o Sbaen ac ar draws y byd.

Chi’n gallu gweld y lloches yn y llun, yn debyg i gaban gwartheg yn erbyn y cawr o graig. Wel na, mae’r lloches â gwelyau i 120 o bobl ac mae’n darparu brecwast a phryd gyda’r nos.

Mae hyn i gyd yn gofyn gweithwyr llawn amser, yn enwedig yn yr haf. Yr wythnos ddiwethaf, ymddangosodd hysbyseb am swydd i ddarparu bwyd a chyflenwi nwyddau eraill i’r lloches, a hynny’n ddyddiol, gan gerdded gydag asyn neu ddau o’r heol agosaf. Mae hyn yn daith o awr a hanner – neu o dair awr, mae popeth yn dibynnu ar y tywydd. Ac yna wrth gwrs, i lawr i’r dyffryn unwaith eto. Amser hir i fod ar y mynydd ar eich pen eich hunan. Dechrau tua diwedd mis Mai, a pharhau tan ddeith yr eira ym mis Hydref.

Roedd iaith yr hysbyseb yn eglur: angen rhywun sy’n gyfarwydd â’r mynyddoedd, ac â phrofiad o weithio gydag anifeiliaid. Hefyd, rhaid cael rhywun oedd yn byw yn yr ardal.

Mae’r Picu de Urriellu, neu’r Naranjo de Bulnes yn ôl yr enw twristaidd, yn eicon sydd i’w weld o bell. Sawl gwaith wrth ddilyn llwybrau mewn rhannau eraill o’r mynyddoedd rydym ni wedi troi cornel a’i weld yn sydyn. Gyda’r hysbyseb, daeth yn amlwg, bod ei statws yn bellgyrhaeddol mewn ffordd arall:

O fewn yr wythnos roedd dros gant wedi gwneud cais. Ac mae’r rhestr wedi cau, felly sori bobl, mae’n rhy hwyr!

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Medi 25, 2022

Haf Hirfelyn y Llyfr

Mae’n hydref. Mae cyhydnos Alban Elfed newydd basio a’r glaw arferol wedi dychwelyd i arfordir dwyrain Astwrias ar ôl haf anhygoel o heulog, poeth a sych. Rwyf i, fel arfer yn nyddiau olaf Medi, wrthi o fore gwyn tan nos yn casglu a phrosesu tomatos. Ond bu mis Awst yn dra gwahanol i’r arfer.

Ymddangosodd fersiwn Sbaeneg fy llyfr ar Galan Awst, gyda lansiad yn Ribeseya/Ribadesella. Roedd hynny’n codi tipyn o ofn arna’i: siarad yn Sbaeneg mewn neuadd gyda chynulleidfa o ryw gant o bobl. Ond roedd gen i gynllun. Roedd fy nghyfaill Fernando, a’m cymydog Pelayo, un yn feddyg a’r llall yn athro, eisoes wedi darllen y llyfr, ac yn barod iawn i leisio’u barn. Dim ond imi ddweud digon i gyflwyno fy hun a’m llyfr, a gwahodd cwestiynau. Cafwyd digon o’r rheiny, ond mae ateb cwestiwn, hyd yn oed mewn iaith arall, llawer yn haws na llunio araith.

Gyda baneri Astwrias a Chymru o’n blaenau, hwyliasom ymlaen drwy’r dri-chwarter awr a gorffen gyda chriw o’m cyfeillion yn esgyn i’r llwyfan i ganu ‘La Capitana’, hoff gân y cylch ffrindiau. Cyflwyno, neu arwyddo, llyfrau wedyn, i aelodau Cymdeithas Ddiwylliannol Cyfeillion Ribadesella. Trueni nad oedd artist y clawr, cymdoges o’r pentref, yn gallu bod yno.

Mae wythnos gyntaf mis Awst yn wythnos miri mawr, yn dechrau eleni gyda’r Piragües, picnic drwy’r dydd ar lan afon Sella gyda’r esgus o wylio ras ceufadau. Es i â hanner fy nogn o gant o lyfrau yno, a rhwng ymdrochi yn yr afon ac yfed sawl culin o seidr bues yn eistedd yng nghefn y fan yn arwyddo llyfr ar ôl llyfr. Yr un peth dridiau wedyn ar noson y Ffair Gaws yn y pentref, ond hyd yn oed yn fwy lletchwith aros roedd hi wedi nosi a doedd gen i ddim unman i eistedd!

Yn fuan wedyn dechreuodd yr adwaith gan y rhai oedd wedi brysio i’w ddarllen. Ni allwn fod wedi breuddwydio’r fath lwyddiant. Y ferch yn y popty rhwng llefain a gwenu wrth ddweud cymaint oedd e wedi golygu iddi; cymydog yn diolch imi am ddangos trysorau bach ei bentref ei hun iddo am y tro cyntaf; rhywun arall yn dweud fy mod wedi ‘rhoi pwysigrwydd i’r pethau bob dydd, y pethau sydd weithiau yn gallu mynd yn fwrn’.

Roedd yr adwaith a ges i yng Nghymru yn wahanol wrth gwrs o ran safbwynt: pobl o bant ydych chi yn yr achos yma! Hoffwn ddiolch o galon i bawb sydd wedi ei brynu, a – gobeithio – ei fwynhau.

Diolch hefyd i ACAR am gyhoeddi’r Sbaeneg, ac i Wasg Carreg Gwalch am roi caniatád iddyn nhw wneud hynny/

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 26, 2022

Fy Llyfr – yn Sbaeneg!

Wedi cyfnod o hirymaros, bydd fy mreuddwyd yn cael ei wireddu o fewn wythnos.

Yn ystod yr ail gyfnod clo yng Nghymru, pan na allwn deithio i Astwrias, es ati i gyfieithu Het Wellt a Welis i Sbaeneg. Roedd nifer o’n ffrindiau a chymdogion wedi gofyn imi wneud hyn, ond wyddwn i ddim a fyddai’n bosib perswadio cyhoeddwr – neu, a dweud y gwir, a fyddwn i’n gallu ymdopi â’r gwaith.

Roedd yn un o’r pethau mwyaf anoodd imi ei wneud erioed; ond o dipyn i beth cefais hyd i fy mhersonoliaeth ysgrifennu yn Sbaeneg. Roedd fy steil wedi newid o’i wirfodd, wedi dod yn fwy hael gyda geiriau, y disgrifiadau’n fwy – wel, blodeuog.

Roedd rhan helaeth o’r gwaith yn gyfieithu cyffredin, mynegi pethau mewn iaith arall, ond roedd rhaid imi addasu rhai rannau: doedd dim angen esbonio enwau Sbeinig i’r darllenwyr arfaethedig, ond roedd rhaid imi egluro pa elfen o fywyd Cymreig oedd wedi gwneud imi synnu at rai o’r traddodiadau yma yn Astwrias.

Bob tro byddwn yn cwpla pennod, bant ag e ar ffurf ebost i fy nghyfeilles Carmen, oedd dan glo Covid mewn pentref bach yng nghanoldir Sbaen. Wna’i fyth anghofio pan gyrhaeddodd cywiriadau’r pennod cyntaf – dros 400 ohonyn nhw! Bron imi roi lan yn y fan a’r lle.

Ond wrth edrych yn fanwl, atalnodi oedd fy mhrif wendid. Mae atalnodi Sbaeneg yn ffurfiol iawn, ac yn wahanol hyd yn oed i’r atalnodi henffasiwn ddysgais i yn Saesneg yn yr ysgol. Sawl achos o gam-deipo, nifer o fethiannau gyda’r modd dibynnol, a dim ond ambell i linell oedd yn annealladwy.

Ymlaen â ni, pennod wrth bennod, nes imi ddechrau ddanfon enghreifftiau at gyhoeddwyr. Pawb yn dweud yn garedig iawn na allant feddwl am ei gyhoeddi eleni, na’r flwyddyn nesaf, gymaint oedd y rhaeadr o lyfrau oedd wedi llifo o’r pandemig. Ond fe wnaeth un tŷ ddanfon fy mhennod at gymdeithas gelfyddydol yn Ribeseya/Ribadesella.

Daeth swyddogion y gymdeithas i weld fi: roedden nhw am gyhoeddi’r llyfr i’w mil o aelodau!

A nawr mae’n digwydd.

Bydd gen i rai os bydd diddordeb gan unrhyw un.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 14, 2022

Golwg Newydd

Ddydd Iau, o’r diwedd, cefais y llawdriniaeth yr oeddwn wedi bod yn aros amdani. Tynnwyd fy lens naturiol, a’r pilen, neu gataract, oedd wedi ffurfio arno, a rhoddwyd yn ei le lens newydd wedi ei wneud yn arbennig imi. Oherwydd gradd uchel fy meiopia (golwg byr), bu’n rhaid wrth fesuro trwyadl a sgyrsiau ffôn ar draws yr Iwerydd rhwng y llawfeddyg a’r cwmni cynhyrchu.

Fore dydd Iau, felly roeddwn yn gorwedd ar fwrdd y theatr, wedi cael yr anaesthetig ac yn aros am y driniaeth. Does gen i ddim syniad faint o amser gymerodd e – des i allan ryw awr ar ôl fynd i mewn ond mae hynny’n cynnwys y gwaith paratoi. Roedd y llawfeddyg wedi fy rhybuddio y byddai’r driniaeth yn gymhleth, ac na allai fod yn siŵr o’r canlyniad. A dweud y gwir, roedd e’n becso fwy na fi: roeddwn i’n gwybod bod rhaid ei wneud, oherwydd roedd fy ngolwg yn gwaethygu’n eithaf cyflym.

Y cof sydd gen i o’r driniaeth ei hun yw darlun fel ffilm natur o dan y môr, pan fydd y camera yn troi tuag at i fyny a gweld yr haul yn simsan drwy symudiadau’r dŵr. Y golau cryf uwchben y ford yn lle’r haul, a’r holl ddiferion oedd yn cael eu harllwys i’m llygad oedd y môr. Doedd fy llygad arall ddim yn gweld, oherwydd y gorchudd drosto.

Rwyf i hefyd yn cofio’r boen. Oherwydd doedd y holl ddiferion a’r chwistrelliad ddim yn ddigon, a bu’n rhaid imi ofyn am fwy. ‘Digon i dawelu eliffant’ meddai’r llawfeddyg wedyn. Dyma pryd oedd yn cael gwared ar yr hen lens. Roedd ail hanner y driniaeth, dodi’r lens newydd yn ei le, yn llai boenus o lawer.

Rhoddwyd ‘tarian’, gorchudd caled, dros y llygad a nôl a fi i’r stafell ‘gwella’ nes bod y llawfeddyg yn dweud y cawn fynd adref, ymhen ryw awr.

Gartref, ac yn dal o dan yr anaesthetig, roeddwn yn iawn. Erbyn nos, roedd y dolur wedi dechrau, yr amrant uchaf wedi chwyddo a’r chwarter honno o’m hwyneb yn dioddef effeithiau’r trawma. Rywsut, llwyddais i gysgu, ac yn y bore bu’n rhaid tynnu’r tarian a golchi’r llygaid gyda dŵr hallt a roddwyd imi.

Doedd fy ngolwg ddim yn sefydlog eto, a’r holl beth yn dal i brifo, ond roeddwn yn gallu gweld!

A dyma fi wythnos a hanner wedyn, yn cerdded ar hyd y stryd heb sbectol a heb ofn. Y tro cyntaf imi wneud, roedd hi’n bwrw glaw mân, a’m llygaid yn mwynhau’r diferion mwyn. A doedd dim rhaid tynnu sbectol drwy’r amser i’w sychu! Roedd heddiw’n heulog braf, felly gwisgais i gap â phig i osgoi’r golau cryf. Ond y gwynt yw’r unig beth sy’n brifo, a hynny am for y llygaid wedi eu diogelu ers cymaint o flynyddoedd gan sbectol a heb arfer ag ef.

Rhaid wrth sbectol i ddarllen – dyw’r lens newydd ddim yn gallu ffocysu – a bydd rhaid aros mis cyn cael prawf llygaid i weld beth sydd ei angen. Ar hyn o bryd mae gen i lens iawn i un llygad (gafodd lawdriniaeth sbel fawr yn ôl) a gwydr plaen yn y llall.

I grynhoi: canlyniaf da.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 5, 2022

Cregyn Môr ac Adar Mawr

Yn nghefn gwlad Astwrias fel yng Nghymru rydym yn byw yn agos iawn at fywyd gwyllt, hyd yn oed os nad ydym ni bob amser yn ymwybodol o hynny. Y llynedd roedd tylluanod yn nythu yn y to, ac mae madfall ac ambell wenynen wedi ymgartrefu o gwmpas y teras. Ond mae rhai mathau o anifeiliaid sy’n sumbolau, a heddiw yn y papur darllenais ddwy stori am farwolaeth rhai o’r rheiny.

Mae’r percebes (pollicipies pollcipes) yn byw ar y clogwyni, rhwng llanw a thrai – man anodd a pheryglus i’r sawl sydd am eu cymryd. Mae’r pris a delir amdanynt – lan at €100/kg yn ôl y maint – yn gwneud y peth yn werth chweil, er gwaetha’r gwhrddiad llym ar bysgota mwy na 6kg y dydd, a hynny yn ystod orau’r haul. Stori heddiw yw bod dyn o’r dalalith i’r dwyrain, Cantábria, wedi ei ddal gan yr heddlu â 29kg o’r creaduriaid yn ei gar, ynghyd â’r holl offer r gyfer eu rhwygo nhw o’r creigiau liw nos. Doedd ganddo ddim hyd yn oed drwydded pysgota hamdden. Aethpwyd â’r cyfan i gartref hen bobl gerllaw; siŵr eu bod nhw wedi mwynhau. Dyma’r hanes o El Comercio

https://www.elcomercio.es/asturias/oriente/marisqueo-ilegal-percebe-llanes-20220205123111-nt.html

Mae’r stori arall yn wirioneddol drist: ers blynyddoedd mae’r gwaith o ailgyflwyno’r fwltur barfog, y quebrantahuesos yn Sbaeneg, wedi mynd yn ei flaen ym mynyddoedd y Picos de Europa rhwng Astwrias a thalaith León. Ddoe fe gafwyd un ifanc yn farw ar dir gwastad yr arfordir. Mae’r adar anferth hyn yn hedfan gannoedd o gilomedrau yn hawdd; hyd yn hyn ni wyddys beth fu achos marwolaeth yr unigolyn hwn, ond cafwyd y corff yn agos i linell drydan.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 7, 2022

Marma-ledi ydwyf

Mae wedi bod yn bwrw glaw drwy’r dydd. Roedd hi’n bwrw ddoe hefyd, ar ôl wythnos o wanwyn twym yng nghanol y gaeaf. Nawr mae’r dymheredd wedi disgyn o 23º i 9º a chymylau’n eistedd ar ben y mynyddoedd i’r de o’r tŷ.

I’r gegin amdani! Rwy’n eistedd gyda phaned wrth law, yn rhestru’r hyn a wnes:

stoc cig eidion – yn aros iddo oeri i gael tynnu’r saim o’r arwynebedd.

cawl pwmpen, dim angen manylu onibai fy mod wedi defnyddio tipyn bach o llwch madarch shiitake

ragú at heno, gyda ffa bach duon sydd braidd yn hen, wedi tyfu yn y cae cyn y pandemig.

paratoi’r ffrwyth ar gyfer gweithio marmalêd yfory. Does dim coeden oren chwerw gyda ni, ond mae gan rai o’r cymdogion. Ac er bod y ffrwyth wedi dechrau sychu o’r pwynt gorau, siŵr bydd y canlyniad yn cael croeso ar y bwrdd brecwast.

Cefais y labeli gan rywun ar y we: dim ond y dyddiad sydd yno ar y funud, wedyn pan fyddaf yn rhoi un yn anrheg – er enghraifft i berchnoges y goeden – byddaf yn ychwanegu’r cynnwys yn yr iaith briodol.

Nawr te, beth am y cnau ‘na.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mai 1, 2021

Hys-bys!

Rhan nesaf yr ymgyrch i gael pawb i ddarllen y llyfr… neu o leiaf i wybod mwy am Astwrias.

Yfory am 1705 amser Prydain byddaf yn siarad gyda Dei Tomos ar ei raglen ar Radio Cymru.

Bydd Dafydd Iwan ymlaen yn gyntaf, nid fel rhyw fath o ‘warm-yp’ ond yn sôn am ei lyfr ef o atgofion drwy ganeuon.

Gobeithio byddwch yn gallu gwrando yn fyw neu wedyn.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ebrill 27, 2021

Adfywiad yr Arth

Ni welais erioed arth pan fuom ni’n cerdded yn y mynyddoedd. Ond o hyn ymlaen bydd gen i fwy o siawns o wneud hynny, yn enwedig os awn ni i orllewin Astwrias.

Yn ôl astudiaeth newydd gan y Fundación Oso Pardo mae poblogaeth yr eirth yn y Cordillera Cantabrica, y mynyddoedd sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ar hyd arfordir gogledd y Pnerhyn Iberaidd, wedi cynyddu gymaint yn y 30 blynedd diwethaf y gall fod yn bryd symud y rhywogaeth o’r rhestr goch: yn dal yn fregus, ond nid ar fin diflannu.

Yn y mynyddoedd dwyreiniol, man cyfarfod León, Cantabria ac Astwrias, mae nawr tair ar ddeg arthes yn geni cenawon; yn y gorllewin, yn ymylu ar León a Galicia, mae’r nifer wedi ffrwydro o saith i chwe deg chwech!

Mae’r eirth bron i gyd o fewn parciau cenedlaethol neu fath arall o safle gwarchodedig: nawr y tebygrwydd yw y byddant yn dod wyneb yn wyneb â throgolion yr ardaloedd hynny am y tro cyntaf mewn blynyddoedd.

Os felly byddwn yn gweld llawer mwy o’r rhain: cortina yw’r enw lleol ar y walgylch sy’n gwarchod cychod gwenyn rhag yr arth. Bydd y perchnogion yn dod gydag ysgol i gyrraedd eu gwenyn.

Mae’n bosib hefyd y bydden nhw’n lladd anifeiliaid ifainc fel ŵyn bach, neu’n dwyn ffrwyth o berllannau. Ond er eu bod yn fawr – dros 2m o daldra wrth sefyll ar eu troed ôl – dwi ddim yn meddwl bydd digon ohonyn nhw i fod yn gymeriad brawychus fel yn yr hen chwedlau.

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 31, 2021

Dyddiad Cyhoeddi

Bydd fy llyfr Het Wellt a Welis yn y siopau ddydd Llun 19 Ebrill 2021!

Gwasg Carreg Gwalch sy’n ei gyhoeddi.

A beth sydd ynddo? Arferion blwyddyn yng nghefn gwlad Astwrias: y lluarth, y ggin, y traeth, y mynyddoedd.

Gyda tipyn bach o hanes a llawer iawn o ffiestas.

Gobeithio y byddwch yn ei fwynhau

Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 18, 2021

Proflenni!

Dyma gam enfawr tuag at ddyddiad cyhoeddi’r llyfr.

Mae proflenni papur Het Wellt a Welis wedi cyrraedd.

Y gobaith yw y bydd y llyfr yn cyrraedd y siopau erbyn mis Mehefin.

Newydd Dorri: gwyliwch allan am y llyfr o ganol mis Ebrill ymlaen! Cewch chi wybod y dyddiad yn bendant mor fuan ag sy;n bosib.

Het Wellt a Welis, hanes blwyddyn yn Astwrias, gyda digon o waith garddio, teithiau cerdded, ryseitiau a thipyn o hanes a sefyllfa bresennol Astwrias.

Older Posts »

Categorïau